Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddiad Newydd ar Integreiddio Fferyllwyr i'r Cymysgedd o Sgiliau Ymarfer Cyffredinol

6 Rhagfyr 2023

Image by Laura Sorvala (www.laurasorvala.com)

Mae ymchwil flaenorol CUREMeDE wedi amlygu manteision hyfforddiant ffurfiol i fferyllwyr mewn meddygfeydd teuluol ond mae hefyd wedi tynnu sylw at ddiffyg dealltwriaeth mewn meddygfeydd teuluol o rôl a chwmpas ymarfer y fferyllydd.

Yn 2022, llwyddodd CUREMeDE i sicrhau grant Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd er mwyn ymchwilio ymhellach i’r broses o bontio fferyllwyr drwy sesiynau ymarfer cyffredinol a defnyddio'r canfyddiadau at ddibenion datblygu pecyn cymorth. Crëwyd y pecyn cymorth ar gyfer timau ymarfer cyffredinol a'i nod oedd eu helpu nhw i gael y budd mwyaf o'r cyfle hwn i gymysgu sgiliau.

Roedd y pecyn cymorth ar gael ar-lein yn 2022, ac mae yna fersiynau i’w cael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Fis diwethaf, cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil a wnaed yng nghyfnodolyn BMJ Open. Mae'r papur yn nodi tair sylfaen sy’n galluogi fferyllwyr i integreiddio’n effeithiol i ymarfer cyffredinol a chyfrannu’n barhaus ato. Datblygwyd y papur ei hun gan Sophie Bartlett (ymchwilydd yn CUREMeDE), Alison Bullock (Cyfarwyddwr CUREMeDE), a Felicity Morris (myfyriwr PhD blaenorol yn CUREMeDE).

Mae’r papur hwn, sef: It’s the stuff they can do better than us’: case studies of general practice surgeries’ experiences of optimising the skill-mix contribution of practice-based pharmacists in Wales ar gael i’w ddarllen nawr.

Rhannu’r stori hon