Ewch i’r prif gynnwys

Siaradwyr y Gymraeg i gael rhagor o lais yn sgil lansio platfform ar-lein sy’n rhad ac am ddim

7 Rhagfyr 2023

Menyw yn eistedd ar y llawr ac yn edrych ar dabled

Mae platfform dwyieithog ar-lein sy’n dadansoddi data testun rhydd arolygon, sy’n rhad ac am ddim a dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, bellach ar waith.

Gan weithio gydag academyddion ym Mhrifysgol Caerhirfryn yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, CBAC, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Cadw, mae pecyn cymorth FreeTxt | TestunRhydd yn caniatáu i sefydliadau mawr ymateb yn gyflym i farn defnyddwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith.

Mae adborth ansoddol ar ffurf testun rhydd arolygon a holiaduron yn peri cryn her i ystod o gwmnïau a sefydliadau preifat a chyhoeddus nad ydyn nhw hwyrach yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd i brosesu’r sylwadau hyn a gweithredu arnyn nhw’n rhwydd.

Dyma a ddywedodd Dr Dawn Knight yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, ac arweinydd y prosiect: "Defnyddir arolygon a holiaduron mewn nifer o gyd-destunau. Gellir eu defnyddio gyda defnyddwyr ac yng nghyd-destun datblygu staff, hyfforddiant proffesiynol, dylunio a phrofi cynnyrch, ac wrth gyflwyno gwasanaethau amryw o ffyrdd yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

"Ond mae gwneud synnwyr o'r ymatebion ansoddol hynny ar ffurf testun rhydd a geir yn aml ar ddiwedd arolygon yn anodd ac mae eu dadansoddi yn gostus. Mae TestunRhydd yn ffordd gyflym a hygyrch o wneud hyn. Mae ein platfform ar-lein eisoes yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Cymru a Cadw, gan ganiatáu iddyn nhw asesu'r math hwn o adborth yn rhwyddach.

"Ein gobaith yw y bydd datblygu'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn caniatáu i farn staff a defnyddwyr ar hyd ystod y sectorau cyhoeddus a phreifat gael eu clywed ac y bydd ymateb cyflymach i’r farn honno. Mae'r ffaith y gall y platfform hwn asesu adborth yn y Gymraeg a'r Saesneg hefyd yn sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn cyflawni eu rhwymedigaethau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011."

Yr adnodd hwn yw'r cyntaf i gefnogi’n llwyr y defnydd o’r Gymraeg wrth lenwi arolygon. Gall defnyddwyr fewnbynnu eu data, a bydd y platfform wedyn yn prosesu'r testun yn gyflym er mwyn gallu gweld a dehongli’r geiriau’n rhwydd, yn ogystal â themâu a phatrymau barn a theimlad sy'n ymddangos yn fwy na heb. Gellir lawrlwytho dadansoddiadau yn rhwydd mewn nifer o ffyrdd ichi allu eu gweld, boed yn siartiau, yn gymylau geiriau neu’n dablau.

Mae academyddion wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid allanol y prosiect i ddylunio, creu a phrofi FreeTxt | TestunRhydd ar y cyd, a hynny i sicrhau bod yr adnodd yn addas i'r diben ac yn diwallu anghenion ymatebion yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn ffordd deg a chyson.

Meddai Dr Mo El-Haj, Uwch Ddarlithydd ym maes Prosesu Iaith Naturiol (NLP) ym Mhrifysgol Caerhirfryn, sydd wedi cydweithio ar y prosiect gyda'i gydweithwyr yr Athro Paul Rayson, Dr Nouran Khallaf a Dr Ignatius Ezeani: "Mae arbenigedd ein tîm wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r broses o ddadansoddi sylwadau testun rhydd arolygon, gyda phwyslais arbennig ar y Gymraeg, a hynny i wella’r ddealltwriaeth o adborth yn sgil arolygon a holiaduron.

"Rydyn ni wedi defnyddio ystod o ddulliau prosesu iaith naturiol (NLP), gan gynnwys dadansoddi barn a theimlad, crynhoi, dadansoddi ystyr, creu cymylau geiriau a deall y ffordd y defnyddir geiriau a pherthynas y rhain â’i gilydd.

"Mae ein gwaith ar y cyd â phartneriaid allweddol wedi bod yn ganolog i lwyddiant y prosiect ac mae’n sicrhau bod FreeTxt | TestunRhydd yn diwallu anghenion ymatebion yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd yn sgil cymhwyso a datblygu'r adnoddau a'r technegau sydd eu hangen i brosesu pob cyd-destun yn effeithiol."

Dyma a ddywedodd Rhys James, Swyddog Dehongli Amgueddfa Cymru: “Roedden ni’n falch iawn o gael cefnogi prosiect mor bwysig sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ac yn dod â ni’n agosach at yr hyn y mae ein cymunedau’n ei feddwl a’i deimlo.  Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn cael eu cynrychioli, ac mae’r gwaith a wnawn yn y tîm dehongli yn bwysig i sicrhau bod pawb yn cael gwrandawiad.

“Mae'r adnodd FreeTxt | TestunRhydd wedi helpu i wneud y broses honno’n fwy cost-effeithiol yn ogystal ag ychwanegu soffistigedigrwydd, rhwyddineb a chysondeb at ein hymchwil. Yn ei dro, bydd hyn yn ein helpu i adlewyrchu llais ein hymwelwyr yn well yn y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud.”

Ariannwyd prosiect FreeTxt | TestunRhydd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Mae'n ehangu ar waith blaenorol Dr Knight, CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes), sy'n gasgliad hygyrch o samplau niferus iaith a gasglwyd o enghreifftiau o gyfathrebu yn y byd go iawn.

This tool is the first to fully support the use of Welsh language responses to surveys. Users can enter their data, with the platform then quickly processing the text to provide an easy-to-interpret visualisation of the words, as well as themes and patterns of sentiment that appear most prominently. Analyses can be easily downloaded in different visualisations, from charts to word clouds and tables.

Academics have worked closely with external project partners to co-design, co-construct and test FreeTxt | TestunRhydd to ensure that the resource is fit-for-purpose and fairly and consistently meets the needs of Welsh and English-language responses.

Dr Mo El-Haj, Senior Lecturer in Natural Language Processing (NLP) at Lancaster University, who has collaborated on the project with colleagues Professor Paul Rayson, Dr Nouran Khallaf and Dr Ignatius Ezeani said: “Our team's expertise has been instrumental in advancing the analysis of free-text survey comments, with a particular emphasis on the Welsh language, to enhance the comprehension of feedback from surveys and questionnaires.

“We've applied a range of NLP methods, including sentiment analysis, summarisation, meaning analysis, word cloud generation, and through the understanding of word usage and relationships.

“Our collaboration with key partners has been central to the project's success and ensures that FreeTxt | TestunRhydd meets the needs of both English and Welsh responses, through applying and developing the tools and techniques required for effective processing in each context.”

Rhys James, Insights Officer at Amgueddfa Cymru said: “We were delighted to support such an important project, which champions the Welsh language and brings us closer to what our communities think and feel. Amgueddfa Cymru is committed to making sure that everyone is represented, and the work we do in our insights team is important in making sure everyone is heard.

“The FreeTxt | TestunRhydd tool has helped make that process more cost effective as well as bring added sophistication, ease, and consistency to our research. In turn, this will help us better reflect the voice of our visitors in the decisions we are taking.”

The FreeTxt | TestunRhydd project was funded by the Arts and Humanities Research Council (AHRC). It builds on previous work by Dr Knight, the CorCenCC (National Corpus of Contemporary Welsh), which is a freely accessible collection of multiple language samples, gathered from real-life communication.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.