Ewch i’r prif gynnwys

Asbrin a thrin canser

4 Rhagfyr 2023

Aspirin tablets

Meddyginiaeth rad sydd o fewn cyrraedd pawb yw asbrin, ac yn ôl astudiaeth feta-ddadansoddi newydd, gallai fod o fudd wrth drin canser, atal canser metastatig rhag ymledu a lleihau cymhlethdodau fasgwlaidd.

Mae Grŵp Asbrin Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad sy’n ymchwilio i effeithiau defnyddio asbrin wrth drin canser.

Ystyriodd yr ymchwil ganlyniadau 118 o astudiaethau arsylwadol yn seiliedig ar tua miliwn o gleifion ag ystod eang o ganserau, a chanfuwyd bod cymryd dos isel (75 neu 81 mg/y dydd) o asbrin bob dydd yn gysylltiedig â gostyngiad o 20% yn nifer y marwolaethau oherwydd canser ac yn nifer y marwolaethau yn gyffredinol.

“Dangoswyd bod asbrin o fudd wrth drin canser yn gyntaf ym 1968, gan ei fod yn targedu nifer fawr o fecanweithiau biolegol allweddol canser, ac yn lleihau’r risg y bydd canser metastatig ym ymledu yn ogystal â’r cymhlethdodau fasgwlaidd sydd gan gleifion canser," meddai Peter Elwood, Athro Mygedol ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae ein hadolygiad o’r ymchwil ar y defnydd o asbrin wrth drin canser wedi canfod tystiolaeth gadarnhaol sy’n cefnogi ei ddefnyddio wrth drin canser. Dangoswyd ei bod yn debygol y bydd defnyddio dos isel o asbirin yn ystod triniaethau canser yn arwain at leihad cyffredinol yn nifer y canserau metastatig sy’n ymledu a lleihad yn y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â gwaed sy’n ceulo.”
Peter Elwood, Athro Mygedol ym Mhrifysgol Caerdydd

Gwyddys bod asbrin yn gallu cynyddu'r risg o waedu gastroberfeddol. Nod yr ymchwil oedd gwerthuso’r risg a ddaw yn sgil defnyddio asbrin wrth drin canser, gan gynnwys y risgiau hynny sy'n gysylltiedig â gwaedu gastroberfeddol. Ymchwiliodd adroddiad Grŵp Asbrin Cymru i’r astudiaethau ar waedu’r stumog sy'n gysylltiedig ag asbrin, ac mae'n dangos bod gwaedu o’r fath a briodolir i asbrin yn llai difrifol na gwaedu gastroberfeddol cleifion yn sgil wlserau’r stumog neu heintiau’r stumog, ac nid oes tystiolaeth ddilys sy’n priodoli gwaedu angheuol i’r defnydd o asbrin.

O ystyried y diogelwch cymharol ynghlwm wrth asbrin, daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad y dylid ei hyrwyddo’n driniaeth ar gyfer canser oherwydd y dystiolaeth gyson sy’n cadarnhau ei fod yn lleihau canser metastatig rhag ymledu, a gorau po gyntaf y dechreuir defnyddio asbrin ar ôl diagnosis o ganser, mwyaf i gyd fydd y budd o’i ddefnyddio.

“Rydym yn credu - o ystyried ei ddiogelwch cymharol a'i effeithiau ffafriol - y gellir cyfiawnhau’n llwyr y defnydd o asbrin yn driniaeth ychwanegol ar gyfer canser.

“Gan fod asbrin yn rhad ac ar gael yn rhwydd ym mron pob gwlad. Efallai y bydd hybu’r defnydd ohono o fudd mawr ledled y byd, ac o ystyried yr oedi ar hyn o bryd yn y gwasanaethau arbenigol i gleifion y tybir bod ganddynt ganser, gallai'r gostyngiad hwn fod yn fuddiol dros ben,” ychwanegodd yr Athro Elwood.

Cyhoeddwyd yr ymchwil, Aspirin and cancer treatment: systematic reviews and meta-analyses of evidence: for and against, yn British Journal of Cancer.

Rhannu’r stori hon