Ewch i’r prif gynnwys

Dathlodd staff academaidd effaith ymchwil

4 Rhagfyr 2023

Stock image of people holding hands

Cafodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd eu dathlu am eu heffaith gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn rownd derfynol Gwobr Dathlu Effaith 2023.

Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae Gwobr Dathlu Effaith yr ESRC yn gyfle blynyddol i gydnabod a dathlu llwyddiant ymchwilwyr a ariennir gan yr ESRC o ran cyflawni a galluogi effaith economaidd neu gymdeithasol eithriadol yn sgîl ymchwil ragorol.

Ymhlith y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol 2023 oedd Dr Philip Butler, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, yn cydnabod ei waith o ganolbwyntio ar sgiliau seicolegol penaethiaid digwyddiadau’r gwasanaeth tân, yn ogystal â chais tîm gan Dr Emily Harrop o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd a Dr Lucy Selman o Brifysgol Bryste, am eu hymchwil i wella cymorth profedigaeth yn dilyn pandemig Covid-19.

A firefighter carrying equipment walks away from a fire engine toward a building.

Cafodd Dr Philip Butler o’r Ysgol Seicoleg ei argymell gan y panel am ei ymchwil a’i heffaith ar sgiliau seicolegol rheolwyr digwyddiadau’r gwasanaeth tân.

Dywedodd Cadeirydd gweithredol yr ESRC Stian Westlake: Mae cystadleuaeth gwobr dathlu Effaith Y Cyngor Ymchwil Economaidd ag Ymchwil Gymdeithasol yn ein cyfle i gydnabod llwyddiannau rhyfeddol economegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eithriadol y DU.

“Mae effeithiau parhaus y pandemig COVID-19 yn thema amlwg ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau. O helpu manwerthwyr i ddefnyddio data mewn ffyrdd newydd i gefnogi defnyddwyr at ffyrdd iachach o fyw, i ragweld trais trwy ddadansoddi ymddygiad ar-lein, mae effeithiau pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn drawiadol. Rwy’n falch bod y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi ariannu’r ymchwil hwn, a’n bod yn gallu cydnabod a dathlu’r effaith sylweddol a gyflawnwyd yn llawn.”

Mae’r enillwyr yn cael dyfarniad o £10,000 i wario ar gyfnewid gwybodaeth pellach, ymgysylltu â’r cyhoedd neu weithgareddau cyfathrebu eraill, a cawsant eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 15 Tachwedd 2023.

Rhannu’r stori hon