Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol

1 Rhagfyr 2023

Simon at Swansea University

Yn aelod o dîm yr Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE), fe wnaeth Simon Johns gymryd rhan yn ddiweddar yng Ngŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023, gan nodi pen-blwydd y GIG yn 75 oed, a chefnogi thema lles gydol oes. Yn ystod yr ŵyl, buodd yna lu o ddigwyddiadau rhyngweithiol yn digwydd ledled y DU, gyda phob un yn pwysleisio effaith y gwyddorau cymdeithasol.

Simon at Cardiff University

Gwnaeth Simon gyflwyno ei ymchwil ar ddatblygu a gwerthuso rhaglenni iechyd meddwl a lles mewn ysgolion, cyfranogi mewn sesiynau i fyfyrwyr ac oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd ac Abertawe, a chymryd rhan mewn trafodaeth banel dreiddgar ac arbenigol ym Mhrifysgol Bangor ar sail pwysigrwydd cydweithio, ymchwil a lles.

Bu i’r digwyddiad yn Sir Benfro, a drefnwyd dan arweiniad Simon, ddod ag addysgwyr a chynghorwyr lles o bob cwr o Gymru at ei gilydd. Gwnaeth y diwrnod arddangos ambell syniad gwerthfawr y gellir ei weithredu at ddibenion lles mewn ysgolion ac yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae’r gwyddorau cymdeithasol yn eu chwarae wrth wella iechyd a lles mewn addysg ac yn y gymdeithas.

Simon presenting his research at Bangor University

Rhannu’r stori hon