Ewch i’r prif gynnwys

£1.8 miliwn o gyllid Ymddiriedolaeth Wellcome yn ariannu ymchwil i anhwylderau niwroddatblygiadol

1 Rhagfyr 2023

Neurones / Niwronau

Bu i ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd dderbyn £1.8 miliwn o gyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome i gefnogi ymchwil a’i nod fydd gwella’r ddealltwriaeth a’r diagnosis o anhwylderau niwroddatblygiadol - sy’n cynnwys, yn eu plith, anabledd deallusol, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, ac ADHD.

Cafodd Gwobr Datblygu Gyrfa Ymddiriedolaeth Wellcome ei dyfarnu i Dr Greg Ngo, Yr Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r wobr hon yn cydnabod ac yn rhoi cyllid i ymchwilwyr ar ganol eu gyrfa sydd â'r potensial i fod yn arweinwyr ymchwil rhyngwladol.

Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar ddwysáu’r ddealltwriaeth o R-dolenni, strwythurau genetig sy'n cynnwys DNA ac RNA, a'r rôl y maent yn eu chwarae mewn sefydlogrwydd genetig ac anhwylderau niwroddatblygiadol.

Dyma a ddywedodd Dr Ngo, Yr Ysgol Meddygaeth: “Mae anhwylderau niwroddatblygiadol - gan gynnwys anabledd deallusol, epilepsi, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, a sgitsoffrenia - yn effeithio ar tua phump y cant o boblogaeth y byd. Serch hynny, mae’r achos sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o’r anhwylderau niwroddatblygiadol hyn yn dal i fod yn anhysbys, sy’n eu gwneud yn anodd i gael diagnosis ohonynt a’u lliniaru. Awgryma’r dystiolaeth newydd mai treigladau genetig sy'n digwydd pan mae’r embryo’n datblygu yw un o'r darnau coll yn y pos hwn.”

Diben ymchwil Dr Ngo yw ymchwilio i’r mecanwaith sy’n ffurfio’r R dolenni a'i rôl mewn cronni’r treigladau genetig sydd o bosibl yn arwain at anhwylderau niwroddatblygiadol. Drwy gymhwyso’r datblygiadau mwyaf diweddar mewn dilyniannu DNA a thechnoleg bôn-gelloedd, bydd Gwobr Ddatblygiad Gyrfaol Ymddiriedolaeth Wellcome yn caniatáu i ymchwilwyr ddeall yn well yr achosion genetig sydd wrth wraidd anhwylderau niwroddatblygiadol.

“Mae'n anrhydedd mawr imi ennill y Gymrodoriaeth hon, yn enwedig gan mai fi yw un o ddau ymchwilydd yn unig i dderbyn y wobr hon yng Nghymru. Bydd y wobr yn galluogi fy nhîm i feithrin cydweithio a datblygu offer ymchwil arloesol.  Ein nod yn y pen draw yw rhannu gwybodaeth werthfawr er mwyn gwella diagnosis o’r anhwylderau hyn ac i’w lliniaru. ” ychwanegodd Dr Ngo.

Rhannu’r stori hon