Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu hanes genetig dyfrgwn Prydain

1 Rhagfyr 2023

Two Eurasian otters in wood
Llun gan David Bailey

Mae ymchwil genetig newydd wedi datgelu sut y llwyddodd dyfrgwn Prydain i adfer rhag i’r rhywogaeth gael ei cholli yn y 1950au gyda chymorth dyfrgwn o Asia.

Gan ddefnyddio data dilyniannu genomau, dangosodd tîm o Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd i lawer o amrywiaeth genetig dyfrgwn Prydain gael ei golli pan arweiniodd llygredd cemegol at ostyngiadau difrifol yn y boblogaeth rhwng y 1950au a’r 1970au.

“Yn seiliedig ar gofnodion hela dyfrgwn, gostyngodd nifer y dyfrgwn ym Mhrydain yn ystod yr 1950au   Roedd ymchwiliadau yn cysylltu'r dirywiad hwnnw â chronni cyfansoddion cemegol niweidiol yn yr amgylchedd. Ar ôl i'r cemegau hyn gael eu gwahardd, ystyrid y gwaith o adfer nifer y dyfrgwn yn llwyddiant o ran cadwraeth, ond mae'r strwythur genetig presennol yn parhau i adlewyrchu gweddill y boblogaeth a oroesodd y difodiant a oedd bron wedi digwydd” meddai Sarah Du Plessis, Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

Wedyn, defnyddiodd y tîm offer genomig newydd i ymchwilio i sut newidiodd poblogaeth dyfrgwn ym Mhrydain, gan ddefnyddio dilyniannu DNA genomau cyfan.

Dangoson nhw fod hanes dyfrgwn Prydain yn llawer mwy cymhleth nag a dybid o'r blaen ar y cyd â’r dystiolaeth gyntaf o oblygiadau dirywiadau genetig poblogaeth y 1900au, a sut roedd y rhain yn amrywio ledled Prydain. Dangoswyd bod nifer y dyfrgwn yn nwyrain a de-orllewin Lloegr wedi lleihau’n aruthrol tua 1950-80 a bod y boblogaeth yn hynod o isel.

“Fodd bynnag yng Nghymru, awgrymodd y dystiolaeth genetig a ddechreuodd yn gynt, yn y 1800au, tra bod dyfrgwn yng ngogledd Lloegr a'r Alban yn dangos arwyddion o ddirywiad estynedig yn y boblogaeth yn ystod y 800 mlynedd diwethaf. Gyda'i gilydd mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu darlun mwy cymhleth o’r ffactorau sy’n rhoi pwysau amgylcheddol ar ddyfrgwn nag a gydnabuwyd o'r blaen,” ychwanegodd Sarah.

Datgelodd yr ymchwilwyr ddata genetig newydd hefyd am rôl dyfrgwn o Asia wrth adfer y rhywogaeth yn y DU.

Otter with fish

“Yn annisgwyl, daethon ni o hyd hefyd i dystiolaeth bod cynnydd diweddarach yn amrywiaeth genetig dyfrgwn Prydain yn gysylltiedig â thrawsleoli dyfrgwn caeth o Asia i'r DU. Mae dyfrgwn o Asia wedi cyfrannu at gronfa genynnau Prydain, gan gryfhau amrywiadau genetig lleol, gan greu llinell genetig sydd ond i’w chael ym Mhrydain ac Asia.

“Wrth ymchwilio i gofnodion bridio dyfrgwn caeth yn y DU, gwelsom ei bod yn bosibl i nifer fach o ddyfrgwn a fewnforiwyd o Wlad Thai tua'r 1960au gael eu cyflwyno'n ddamweiniol yn rhan o'r gronfa genynnol bryd hynny. Y cwestiwn cyffrous nesaf yn ein gwaith felly fydd a allai'r hwb hwn yn amrywiaeth genetig dyfrgwn Prydain helpu i amddiffyn ein dyfrgwn rhag dirywiad yn y niferoedd yn y dyfodol,” ychwanegodd Sarah.

Mae Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynllun gwyliadwriaeth amgylcheddol tymor hir, gan ddefnyddio dyfrgwn y daethpwyd o hyd iddyn nhw’n farw i ymchwilio i halogion, clefydau a bioleg poblogaethau ledled y DU. Gwnaed y gwaith hwn gan Brosiect Dyfrwn Prifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â gwyddonwyr o Sefydliad Wellcome Sanger, a Sw Genedlaethol Smithsonian a Phrifysgol George Mason.

Cyhoeddwyd y papur, Genomics reveals complex population history and unexpected diversity of Eurasian otters (Lutra lutra) in Britain relative to genetic methods , yn Molecular Biology and Evolution.