Ewch i’r prif gynnwys

Mae ‘History and Archives in Practice’ yn gweithio law yn llaw â Phrifysgol Caerdydd

13 Tachwedd 2023

Mae cydweithio cenedlaethol uchel eu proffil rhwng ymchwilwyr, archifau a chymunedau yn creu cysylltiadau Cymreig unigryw

Daw partneriaeth newydd rhwng yr Archifau Cenedlaethol, y Gymdeithas Hanes Frenhinol, a’r Sefydliad er Ymchwil Hanesyddol,sef History and Archives in Practice (HAP), â haneswyr ac archifwyr ym Mhrifddinas Cymru at ei gilydd i rannu ac ystyried eu diddordebau cyffredin yng nghasgliadau archifau, eu dehongliad ohonynt a’u defnydd.

Yn sgîl y digwyddiad agoriadol a fu’n llwyddiant y llynedd, mae HAP yn mentro ledled y DU i gyd-weithio law yn llaw ag archifau a sefydliadau – ac archifwyr ac ymchwilwyr yn ddiwahân – i dalu sylw i’r casgliadau ehangach yn y DU a rhannu mwy o’r ymchwil wrth iddi ddod i’r amlwg.

Wrth inni edrych tua’r dyfodol i 2024, bydd trafodaethau’n digwydd am effaith etifeddiaethau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, ac fe’u cynhelir y rhain mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ac a’u hysbrydolwyd gan ei chasgliadau gwerthfawr a’i harbenigedd enwog mewn hanes yn ystod digwyddiad, sef: Historical Legacies: collecting history, historical collections and community voices.

Wedi’i hysbrydoli gan gasgliadau ac ymchwil ym mhob lleoliad lletyol, un o addewidion y bartneriaeth newydd hon yw arddangos ymchwil arloesol o bob rhan o Gymru yn ystod ei hail wibdaith, gyda HAP24 yn croesawu cynigion gan haneswyr, archifwyr a sefydliadau treftadaeth yn ddiwahân, sydd â phwyslais arbennig ar amlygu’r casgliadau hynny heb gynrychiolaeth ddigonol, lleisiau sydd wedi’u hymyleiddio, a sefydliadau bychain.

Nod y bartneriaeth hon yw gwella amcanion Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd a sefydlwyd yn 2005 er mwyn agor ei chasgliad trawiadol o adnoddau unigryw a nodedig yn rhad ac am ddim i bawb, a’r holl botensial cymdeithasol, ymchwiliol ac addysgol a ddaw trwy wneud hynny.

“Mae’r digwyddiad yn darparu cyfleoedd i fyfyrio ar wydnwch etifeddiaethau (hanesyddol, ffisegol, digidol), ar ddemocrateiddio hanes, ac ar y cyfrifoldeb sydd gennym i weithio ar y cyd â chymunedau i sicrhau bod ein casgliadau a’n harferion wedi’u gwreiddio mewn cyd-greu a chydweithio.”, meddai Mollie Clarke, Rheolwr Ymgysylltu Academaidd yn yr Archifau Cenedlaethol.

“Rydym yn hynod falch o fod yn bartner â Phrifysgol Caerdydd ac yn edrych ymlaen at glywed mwy am ei holl gasgliadau cyffrous a’r ymchwil arloesol a wneir ar draws y sefydliad ac ar draws Cymru ei hun.”

ByddHAP24 Historical Legacies: collecting history, historical collections and community voices yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ar 6 Mawrth 2023.

Sefydlwyd y prosiect History and Archives in Practice trwy drin a thrafod y pwnc: Collecting Communities: working together and with collections a gynhaliwyd yn y Sefydliad er Ymchwil Hanesyddol yn 2023.

Rhannu’r stori hon