Ewch i’r prif gynnwys

Chwalu’r hud o amgylch Deallusrwydd Artiffisial (AI)

13 Tachwedd 2023

Mewn sesiwn friffio dros frecwast yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar trafodwyd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) gan fusnesau blaenllaw wrth i’r dirwedd dechnolegol newid yn gyflym iawn.

Yn arwain y sesiwn fu’r Athro Joe O'Mahoney, arbenigwr twf yn y sector ymgynghori.

Gan ddechrau gyda throsolwg o'r mathau amrywiol o AI, tynnodd yr Athro O'Mahoney sylw at fodelau AI, megis Chat GPT a systemau arbenigol sy'n efelychu’r broses ddynol o wneud penderfyniadau drwy reolau a hewristeg.

Er mwyn profi galluoedd AI, dangosodd Chat GPT ar waith, gan ofyn iddo gynhyrchu sleidiau cyflwyniad, ac i ychwanegu jôc at y rhain hyd yn oed. Pwysleisiodd pa mor gyflym y mae AI yn esblygu ac yn gwella.

Ymchwiliodd y sesiwn i’r agweddau creadigol ar AI, gan gyflwyno ei allu i gynhyrchu celf, a hyd yn oed fewnosod geiriau cudd mewn delweddau at ddibenion hysbysebu. Rhan drawiadol o'r cyflwyniad oedd cael gwybod am allu AI i ail-greu delweddau yn seiliedig ar sganiau MRI.

Heblaw hynny, aeth yr Athro O'Mahoney, sydd ar hyn o bryd yn ysgrifennu llyfr ar AI yn y sector ymgynghori, ymhellach i dreiddio i’r ymchwil am AI a’r canfyddiadau a’r ddealltwriaeth a ddaw ohoni. Ymhlith y prif ganfyddiadau roedd y canlynol:

  • Mae AI yn fwy manwl gywir na meddygon
  • O’u cymharu â meddygon, mae AI 9 gwaith yn fwy pendant
  • Llwyddodd AI i guro 99% o fyfyrwyr o ran creadigrwydd
  • Mae AI yn gwneud straeon yn fwy gwreiddiol a diddorol

Gwnaeth Ymgynghorwyr rheoli a ddefnyddiodd AI:

  • Orffen 12% yn fwy o dasgau
  • Cwblhau tasgau 25% yn gyflymach
  • Cynhyrchu tasgau 40% yn well o ran eu hansawdd

Y defnydd posibl o AI ym myd busnes oedd canolbwynt y sesiwn. Ymhlith y posibiliadau a drafodwyd oedd asedau sgwrsio, cymorth gan sgyrsfot, canfod tueddiadau a chreu cynnwys, gan gynnwys cynhyrchu syniadau a gwirio cynnwys. Argymhellodd yr Athro O'Mahoney ddefnyddio Fireflies i drawsgrifio a gwneud nodiadau, a Numerous.ai, sef ategyn taenlenni wedi'i bweru gan AI.

Er mwyn integreiddio AI ar raddfa fwy, gallai busnesau ymchwilio i’r posibiliadau o ddefnyddio ategion AI gan drydydd parti, datblygu sgyrsfotiau, a hyd yn oed greu meddalwedd AI pwrpasol a Modelau Iaith Mawr (LLM), yn debyg i'r rheini a ddatblygir gan gewri byd technoleg megis Bloomberg, Microsoft, Google ac Apple.

Aeth yr Athro O'Mahoney ati i drafod asiantau AI, gan eu disgrifio nhw’n "ysbrydoledig". Endidau AI annibynnol yw'r asiantau sy'n gallu rhyngweithio a chydlynu â'i gilydd. Cyflwynodd sefyllfa lle mae’r asiantau AI yn gweithio gyda'i gilydd i baratoi a gwneud archeb am pizza, gan bwysleisio’r ffaith bod hyn yn ddatblygiad diweddar a hynod ddiddorol ym myd AI.

Gan droi ei sylw at y sector ymgynghori, treiddiodd yr Athro O'Mahoney i sut y gellid integreiddio AI yn y broses werthiannau i leihau tasgau gweinyddol, gan ganiatáu i weithwyr proffesiynol ganolbwyntio ar yr agweddau mwy dynol yn eu swyddi.

Gan gloi'r sesiwn, trafodwyd y risgiau sy'n gysylltiedig ag AI, gan gynnwys pryderon ynghylch preifatrwydd, rhagfarn, tryloywder, atebolrwydd, y posibilrwydd o golli swyddi, a gorddibyniaeth arno.

Yn ystod sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa, roedd moeseg a’r goblygiadau yn sgil AI i brifysgolion ymhlith y pynciau a drafodwyd.

Gwyliwch y recordiad llawn o'r sesiwn friffio dros frecwast:

Sesiwn friffio dros frecwast.

Rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl byd busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a’r datblygiadau allweddol diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol yw Cyfres Sesiynau Briffio dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhannu’r stori hon