Ewch i’r prif gynnwys

Incwm gwan a bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal gweithwyr Cymru yn ôl: Diweddariad Marchnad Lafur

13 Tachwedd 2023

Mae rhyw ac oedran yn parhau i fod yn ffactorau allweddol o ran esbonio lefelau cyflog yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Diweddariad Marchnad Lafur Cymru yw’r adroddiad diweddaraf gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, ac mae’n datgelu cyfres o ganfyddiadau sylweddol ar waith, cyflogau a gweithgarwch economaidd yng Nghymru.

Mae’r dadansoddiad yn dangos bod incymau trethadwy canolrifol dynion a menywod iau yn debyg, ychydig yn uwch na’r lwfans personol o £12,570 – ond mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedyn yn cynyddu ac yn cyrraedd uchafbwynt ymhlith pobl 45-54 oed, lle mae menywod yn ennill incwm canolrifol o £18,000 i gymharu â £23,600 i ddynion. Mae’r data’n dangos mai cymharol ychydig y mae cyflogau menywod yn amrywio dros eu hoes, tra bod incymau dynion yn cynyddu’n sylweddol wrth iddynt heneiddio.

Mae maint cyffredinol y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau dros amser ond mae’n parhau i fod yn bresennol ac ar ei ehangaf ar gyfer gweithwyr ar y cyflogau isaf.

Mae cyflogau cyffredinol yn parhau i fod yn wan yng Nghymru. Ers i'r data ddechrau yn 2000/2001, ni ellir gweld unrhyw duedd barhaus sylweddol o ran cynyddu nifer y gweithwyr ar incwm canolig ac uwch, neu o ran lleihau'n sylweddol y gyfran o ddynion neu fenywod sy'n ennill cyflogau is.

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys datguddiad o’r sectorau sy’n talu fwyaf yn yr economi, gyda data HMRC yn dangos mai gweithwyr yn y diwydiannau mwyngloddio a chwarela, ynni a dŵr sy’n cael y cyflogau gorau yng Nghymru.

Yn y cyfamser, mae cyfyngiadau data yn parhau i achosi heriau ar gyfer unrhyw ddadansoddiad pellach o incwm ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig fesul sector, rhyw neu grŵp oedran.

Mae’r adroddiad yn annog llywodraethau i gymryd cyfansoddiad unigryw marchnad lafur Cymru i ystyriaeth yn ystod cyfnod economaidd anodd.

“Mae’n ddarlun llwm a chymhleth,” meddai prif awdur yr adroddiad, Dr Larissa Peixoto Gomes.

“Fe wnaethon ni ddefnyddio sawl ffynhonnell er mwyn adeiladu’r darlun hwn, ac mae’n un o anghydraddoldeb systemig, lle mae menywod yn gweithio neu’n astudio’n rhan amser wrth ofalu am y cartref. Mae hyn yn parhau i fod yn realiti i’r mwyafrif er gwaethaf y gostyngiad yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae’n arbennig o anodd ceisio cael mwy o fanylion am hyn o ran ethnigrwydd, gwlad wreiddiol, a hyd yn oed fesul awdurdod lleol, oherwydd bod y data mor gyfyngedig. Mae angen gwell data arnom i gynhyrchu gwybodaeth o safon.”

Rhannu’r stori hon