Ewch i’r prif gynnwys

Papur newydd yn archwilio hyfforddiant meddygon teulu yng Nghymru

1 Tachwedd 2023

Photo by MART PRODUCTION via Pexels.com

Yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd ac a ariannwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, bu cyn-gydweithiwr CUREMeDE, Dorottya Cserzo yn gweithio gydag Alison Bullock ar gyhoeddiad o'u hastudiaeth o fodel hyfforddi newydd ar gyfer meddygon teulu yng Nghymru. Fe wnaethant gasglu data arolygon a chynnal grwpiau ffocws gyda hyfforddeion meddygon teulu a'u hyfforddwyr.

Yn y model newydd hwn, treulir mwy o amser yn hyfforddi mewn practisau cyffredinol ond llai o amser mewn lleoliadau ysbyty. Er iddynt nodi rhai anfanteision i leihau’r amser a dreulir mewn swyddi hyfforddi gofal eilaidd, canfuwyd bod treulio mwy o amser mewn ymarfer cyffredinol yn gwella parodrwydd yr hyfforddeion ar gyfer weithio fel meddyg teulu. Roedd yr holl hyfforddeion a'r rhan fwyaf o hyfforddwyr o'r farn bod buddion y model newydd yn drech nag unrhyw anfanteision.

Mae'r papur a elwir "Longer in primary care: a mixed methods study of the Welsh GP training model" wedi cael ei gyhoeddi yn y British Journal of General Practice (BJGP) Open ac mae ar gael nawr.

Rhannu’r stori hon