Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y dyniaethau a’r celfyddydau creadigol

26 Hydref 2023

Mae hanesydd o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn Medal Dillwyn sy’n gydnabyddiaeth dra nodedig

Mae’r hanesydd Dr Rebecca Thomas wedi ennill Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ei chyfraniad i’r dyniaethau a’r celfyddydau creadigol.

Mae’r Fedal Dillwyn yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd naill ai’n gweithio yng Nghymru, neu â chysylltiad â hi.

Bwriad y gwobrau blynyddol hyn yw gwireddu amcan strategol y Gymdeithas, sefdathlu ysgolheictod Cymru mewn ffyrdd cyhoeddus yn y gwyddorau, y celfyddydau a'r dyniaethau, a bydd y sawl sy’n ennill yn rhoi mwy o amlygrwydd i ymchwil gyrfa gynnar a wneir yng Nghymru a'r DU drwy gynnal darlithoedd cyhoeddus penodol ar gyfer y cyhoedd a thrwy gyhoeddi erthyglau byr.

Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn hynod o gynhyrchiol ar gyfer yr hanesydd sy’n arbenigo mewn hanes yr oesoedd canol.  Wedi’i phenodi’n awdur preswyl Cymraeg cyntaf y Bannau Brycheiniog (a elwid gynt yn Brecon Beacons National Park yn Saesneg), yn 2023 cyhoeddodd ei nofel hanesyddol ddiweddaraf i oedolion ifanc Y Castell ar y Dŵr gan ennill hefyd Gwobr Hanes Cymru Francis Jones Cyhoeddwyd ei llyfr academaidd cyntaf, History and Identity in Early Medieval Wales, gan Boydell a Brewer ym mis Ebrill 2022.

Derbyniodd Dr Thomas fedal arbennig Gwobr Dillwyn yn seremoni Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn y Senedd ar 26 Hydref 2023.

Gyda chymorth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae tair gwobr Medal Dillwyn yn cydnabod cyfraniadau eithriadol sy’n cwmpasu’r Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth, y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol, y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes.

Rhannu’r stori hon