Ewch i’r prif gynnwys

Flora: Teyrnged i Chwaeroliaeth a Menywod Du

25 Hydref 2023

Mural on the Sports Centre building

Mae murlun newydd sy’n dathlu menywod Du wedi'i ddadorchuddio ar gampws y Brifysgol yn ystod mis Hanes Pobl Ddu.

Comisiynwyd Flora: Teyrnged i Chwaeroliaeth a Menywod Du gan y Brifysgol, ac fe’i dyluniwyd gan Unify - y stiwdio greadigol sydd wedi creu murluniau Cymreig eiconig fel Butetown Mona Lisa a My City, My Shirt.

Gellir dod o hyd i'r murlun 14 metr o uchder ar adeilad y Ganolfan Chwaraeon, Senghenydd Road, ac mae'n brawf o bŵer parhaol chwaeroliaeth ac yn ddathliad o'r rôl amhrisiadwy y mae menywod Du yn ei chwarae yn sylfaen i’n cymuned — mamau, merched, chwiorydd sydd wrth guriad calon ein cymdeithas.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner: “Mae'r murlun trawiadol hwn yn adrodd stori bwerus ynghylch menywod Du, amrywiaeth a chymuned – ac rydym wrth ein bodd ag e. Roeddem am gomisiynu darn o gelf cyhoeddus sy'n adlewyrchu'r ddinas amlddiwylliannol rydyn ni'n ei galw'n gartref i ni, ac mae Unify wedi creu rhywbeth sydd wedi rhagori ar ein disgwyliadau.”

Dywedodd Yusuf Ismail o Unify: “Roeddem am greu murlun sy'n talu gwrogaeth i'r rolau hanfodol y mae menywod Du yn eu chwarae yn ein bywydau a'n cymdeithas bob dydd.

“Mae'r murlun yn portreadu menyw Ddu wedi'i hamgylchynu gan ddail, gan symboleiddio safle uchel menywod Du yn ein cymunedau, a’u pwysigrwydd.

“Mae pob blodyn yn cynrychioli straeon unigryw ac amrywiol menywod Du yn ein cymuned ac roeddem am gyfathrebu drwy'r darn hwn.”

Bu i’r Athro Larner ddadorchuddio’r murlun mewn digwyddiad ar 25 Hydref 2023.

https://youtu.be/jK06_GoKhsQ

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cyflwyno cenhadaeth ddinesig i gefnogi iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru drwy weithio gyda’n cymunedau.