Ewch i’r prif gynnwys

Darlith gyhoeddus: Y Grefft Ryfela Dosbarth

24 Hydref 2023

Nicholas Jones
Nicholas Jones, Chyn-ohebydd Llafur, Diwydiant a Gwleidyddiaeth i’r BBC.

Y Grefft Ryfela Dosbarth: Streic y glowyr 1984-85 fel y’i portreadwyd drwy lygaid cartwnyddion y wasg

Darlith gyhoeddus â lluniau a gyflwynir gan Athro Nicholas Jones, sy’n Athro Anrhydeddus yn Ysgol JOMEC Caerdydd a chyn-ohebydd Llafur, Diwydiant a Gwleidyddiaeth i’r BBC.

  • 21 Tachwedd 2023, 18:00 i 19:00, Ystafell 0.06, Dau Sgwâr Canolog
  • Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd

Bu streic y glowyr rhwng 1984-85 yn un o anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw, caled, rhwygol a phwysig a welwyd yn hanes y DU, a wnaeth y wasg chwarae rhan ganolog a dadleuol ynddi.

Ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeugain oed, gwnaeth Nicholas Jones adrodd newyddion am y streic ar ran y BBC, gan dynnu ar ei brofiad personol ei hun, yn ogystal â’i archif bersonol o ddarllediadau newyddion, er mwyn hel atgofion am y streic drwy bersbectif cartwnyddion y wasg.

Scab Cartoon from the Observer newspaper.
Scab. Cartŵn o The Observer, 23 Medi 1984.

Dewch i wybod mwy am y streic o safbwynt unigryw Jones, wrth iddo drafod y cartwnyddion a’u gweledigaeth o’r arwyr a dihirod, creulondeb yr heddlu, undod y dosbarth gweithiol, a’r anobaith cynyddol a deimlodd y cymunedau yma wrth iddynt ddioddef newyn a wnaeth eu gorfodi ‘nôl i’r gwaith, yn ystod gwrthdaro epig rhwng y ceidwadwyr digyfaddawd a’r gweithwyr cyffredin. Bydd y sgwrs gyhoeddus hon yn cynnig cipolwg ar y streic ei hun, ond hefyd ar gartwnau newyddiadurol y dydd, sy’n aml yn gignoeth o ddidostur, yn ddoniol ar adegau, ac weithiau’n greulon.

Nid oes angen i chi archebu tocyn: dim ond troi i fyny ar y diwrnod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r trefnydd, Dr Andy Williams ar willliamsa28@caerdydd.ac.uk

Darlith wyneb-yn-wyneb fydd hon, ac felly, ni fydd yn cael ei darlledu’n fyw na’i recordio.

Rhannu’r stori hon