Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniadau arolwg gwych a chyfarwyddwr newydd i ganolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd

23 Hydref 2023

Logo gwyn ar gefndir porffor.
Logo Dysgu Cymraeg Caerdydd

Mae canolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yn Ysgol y Gymraeg, wedi derbyn adroddiad disglair yn dilyn arolwg diweddar gan Estyn.

Derbyniodd Dysgu Cymraeg Caerdydd radd ‘Rhagorol’, sef y radd uchaf posib, am 4 allan o’r 5 maes a gafodd eu harolygu ym mis Mai.

Derbyniodd meysydd ‘Lles ac agweddau at ddysgu’, ‘Addysgu a phrofiadau dysgu’, ‘Gofal, cymorth ac arweiniad’ ac ‘Arweinyddiaeth a rheolaeth’ radd ‘Rhagorol’ ac fe dderbyniodd maes ‘Safonau’ radd ‘Da’.

Sefydlwyd Dysgu Cymraeg Caerdydd yn dilyn creu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2016 ac mae’n un o 11 o ddarparwyr y Ganolfan. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion yn ninas a sir Caerdydd ar bob lefel.

Roedd yr arolwg hefyd yn ddiwedd cyfnod i Dysgu Cymraeg Caerdydd wrth i’r tîm ffarwelio â Lowri Bunford-Jones. Wedi cyfnod llwyddiannus yn arwain y ddarpariaeth, mae Lowri wedi symud ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 Llun o ddynes sy'n gwisgo coch yn gwenu ar y camera.
Cyfarwyddwr newydd Dysgu Cymraeg Caerdydd, Anna Jones

Anna Jones yw cyfarwyddwr newydd Dysgu Cymraeg Caerdydd ac fe ddechreuodd yn ei swydd ddydd Llun 2 Hydref.

Daw Anna o Goleg Gŵyr Abertawe lle bu’n gweithio am fel Rheolwr y Gymraeg. Fel rhan o’r swydd honno, roedd hi’n arwain ar ddatblygiadau strategol darpariaeth Gymraeg, staffio a phrofiad y dysgwyr.

Cyn hynny, bu’n Swyddog Ymchwil gydag S4C cyn cwblhau cwrs TAR a dysgu yn Ysgol Rhydywaun.

Meddai Anna: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gael ymgymryd â’r her newydd o weithio fel Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd.

“Mae’r adroddiad diweddar gan Estyn yn nodi carreg filltir lwyddiannus yn hanes y ddarpariaeth yma.

“’Alla i ddim aros i gael cychwyn gweithio gyda thîm mor ymroddedig a gweithgar, sy’n gwneud cyfraniad pwysig at strategaeth y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Ar lefel bersonol mae hi’n ugain mlynedd union ers imi symud i Gaerdydd o’r Gogledd er mwyn astudio Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd, felly mae’n amserol iawn imi ddod ’nôl!”

Dr Dylan Foster Evans yw pennaeth Ysgol y Gymraeg. Meddai ef: “Mae'n hyfryd gweld bod yr adroddiad hwn gan Estyn yn cydnabod y gwaith rhagorol sydd wedi ei wneud gan dîm Dysgu Cymraeg Caerdydd dan arweiniad Lowri Bunford-Jones. Hoffwn estyn pob dymuniad da i Lowri yn ei swydd newydd, a diolch yn fawr iddi ar ran pawb yma am ei harweiniad doeth a diflino.

“Mae ein dysgwyr yn cael profiadau gwych gyda ni ar eu taith i feistroli'r Gymraeg – mae ein diolch iddynt hwythau hefyd am eu hymroddiad a'u brwdfrydedd.

“Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn awr yn edrych ymlaen at gyfnod newydd a chyffrous dan arweinyddiaeth Anna Jones, sy'n dod atom gydag ystod o brofiadau ac arbenigedd ym maes addysg a'r Gymraeg. Gallwn edrych ymlaen yn hyderus at ddatblygiadau pellach ym maes dysgu Gymraeg yng Nghaerdydd.”

Os hoffech ragor o wybodaeth am gyrsiau dysgu Cymraeg, ewch i’r wefan.

Rhannu’r stori hon