Ewch i’r prif gynnwys

Egluro’r economi gylchol

23 Hydref 2023

The recycling symbol - with environment signs around it implying the circular economy

Yr economi gylchol oedd canolbwynt digwyddiad briffio diweddar a gynhaliwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd, gyda siaradwyr gwadd o KPMG.

Roedd y sesiwn yn ymdrin â'r hyn y mae'r economi gylchol yn ei olygu a'i phwysigrwydd, amlinellwyd sut y gall cwmnïau symud tuag at arferion cylchol, ac arddangoswyd enghreifftiau o fusnesau sy'n defnyddio’r dull hwn.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein gan Yingli Wang, Athro Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Y cyntaf i siarad oedd Nicolas Jourdain, Pennaeth Economi Gylchol yn KPMG ar gyfer rhanbarth EMA. Gan ddisgrifio'r economi gylchol, esboniodd Nicolas ei fod yn ymwneud â chwmnïau sy'n dylunio cynhyrchion sy'n cael eu gwneud i bara, ac y gellir eu hatgyweirio a'u huwchraddio. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn symud i fyd sy'n cael gwared ar wastraff a llygredd, yn cylchredeg cynhyrchion a deunyddiau, ac yn adfywio systemau naturiol.

Ar y pwnc o symud i economi gylchol, dywedodd Nicolas: “rydym yn sôn am arferion busnes. Rydym yn sôn am newid systemig oherwydd ei fod yn drawsnewidiad llwyr i gwmnïau.”

Siaradodd Nicolas am bwysigrwydd y newid i economi gylchol. Ar hyn o bryd ystyrir fod y byd yn 7% cylchol yn unig ac esboniodd fod cylchrediad yn hanfodol er mwyn i gwmnïau gwrdd ag allyriadau sero net.

Yn ddiweddarach yn y sesiwn, siaradodd Nicolas am reoleiddio cwmnïau, gan gyfeirio at Gynllun Gweithredu Economi Gylchol yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd ein bod yn disgwyl cael cyflymiad a thrawsnewidiad enfawr mewn cylchrediad o ganlyniad i gwmnïau fod yn fwy tryloyw yn eu hadrodd oherwydd y Gyfarwyddeb Adrodd Cynaliadwyedd Corfforaethol.

Nesaf i siarad oedd Luke Bywaters, Ymgynghorydd Strategaeth yn KMPG, a drafododd beth mae symud i gylchrediad yn ei olygu i gwmnïau.

Wrth drafod sut y gall cwmnïau drosglwyddo'n llwyddiannus, pwysleisiodd Luke: “Mae angen cydweithio a dull cydgysylltiedig ar draws gwahanol swyddogaethau yn y sefydliad i fod yn llwyddiannus. Ond hefyd yn ddelfrydol ar draws y gadwyn werth, gan gydweithio â chwsmeriaid a chyflenwyr.”

Esboniodd sut y gall KPMG gefnogi cwmnïau wrth iddynt drawsnewid i fodel gylchol. Ymhlith y meysydd y gallant gynorthwyo gyda nhw mae:

  • gosod strategaeth a gweledigaeth a nodi cyfleoedd
  • sganio rheoliadau
  • mesur a llywio
  • dylunio ar gyfer cylchrediad
  • olrhain a digideiddio cadwyn gyflenwi
  • gweithredu a rheoli dylunio

Gan ddod â'r economi gylchol yn fyw, siaradodd Luke trwy rai enghreifftiau o gwmnïau sy'n ymarfer hyn. Mae mentrau y mae cwmnïau yn eu gwneud yn cynnwys:

  • Philips Healthcare — cynnig gwasanaeth cymryd yn ôl ac atgyweirio i gleientiaid, gyda chynllun uchelgeisiol i gyflawni 25% o'u refeniw o economi gylchol.
  • Ikea - gan ganolbwyntio ar egwyddorion dylunio, gwneud cynhyrchion y gellir eu hatgyweirio, a hefyd yn cynnig gwasanaeth cymryd yn ôl ac atgyweirio.
  • Renault - ffatri sy'n atgyweirio ceir ail-law a batris EV.
  • Nespresso — wedi mabwysiadu model busnes newydd lle mae cwsmeriaid, yn lle bod yn berchen ar beiriannau, yn rhentu cynnyrch gan Nespresso, felly gall Nespresso drwsio'r rhain a bod ganddynt ddiddordeb mewn ymestyn bywyd y cynnyrch.

Siaradodd Nicolas am y prif yrrwyr sy'n gwthio'r economi tuag at fodel gylchol. Un o'r rhain yw cyflwyno Pasbortau Cynnyrch Digidol (DPP), a fydd o 2026/27 yn orfodol ar gyfer 8 diwydiant blaenoriaeth. Mae'n ystyried hyn yn bwysig a chwyldroadol i'r newid i economi gylchol.

I gloi'r sesiwn, cymerodd Nicolas a Luke gwestiynau gan y gynulleidfa. Roedd y pynciau a gwmpaswyd yn cynnwys p'un a yw gweithgynhyrchwyr yn celcio adnoddau a'r hyn y gall prifysgolion ei wneud o safbwynt ymchwil ac addysgu i gefnogi'r symud i economi gylchol.

Gwyliwch recordiad y sesiwn briffio:

Egluro’r economi gylchol

Mae Cyfres Brecwast Briffio Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a’r datblygiadau allweddol diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Rhannu’r stori hon