Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth yn mynd i'r afael â chamwybodaeth yn CREST Security Review

20 Hydref 2023

Mae twf camwybodaeth, gyda'i oblygiadau pellgyrhaeddol, wedi dod yn her aruthrol a dybryd sy'n mynd ar draws ffiniau, diwylliannau ac ieithoedd.

Yn y rhifyn diweddaraf o CREST Security Review (CSR), cylchgrawn gan y Ganolfan Ymchwil a Thystiolaeth ar Fygythiadau Diogelwch (CREST), gwahoddwyd ymchwilwyr o'r Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Cudd-wybodaeth i helpu i fynd i'r afael â her fyd-eang camwybodaeth.

Cyfrannodd y tîm ddwy erthygl arbenigol i'r adolygiad. Yn y cyntaf mae Dr Helen Innes, Andrew Dawson a’r Athro Martin Innes yn archwilio’r cydadwaith rhwng deallusrwydd ffynhonnell agored a thwyllwybodaeth i ddangos sut maen nhw’n gwneud arloesiadau hanfodol yn nhrefniadaeth ac ymddygiad ei gilydd. Yn yr ail, mae Isabella Orpen yn esbonio sut mae deall mathau amrywiol o  
ddamcaniaethwyr cynllwyn yn hanfodol i ddeall a lliniaru'r risgiau posibl yn well.

Meddai’r Athro Martin Innes, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Cudd-wybodaeth: “Ers sawl blwyddyn, mae ein tîm arbenigol yng Nghaerdydd wedi bod yn cynnal ymchwil o’r radd flaenaf i olrhain esblygiad a datblygiad y bygythiadau a’r niwed cymdeithasol a achosir gan gamwybodaeth."

Mae cyhoeddi’r ddwy erthygl hyn yng nghylchgrawn CREST yn fodd i ni dynnu sylw at rai datblygiadau arloesol pwysig yn y modd y caiff twyllwybodaeth ei llunio a’i chyfleu, a chael y mewnwelediadau hanfodol hyn ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Yr Athro Martin Innes Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Mae CREST yn ganolfan ymchwil ledled y DU sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerhirfryn ac a ariennir gan asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth y wlad, ac mae'n canolbwyntio ar gynhyrchu mewnwelediadau gwyddor gymdeithasol effeithiol i wella ein dealltwriaeth o fygythiadau diogelwch a'r gallu i'w goresgyn. Maent yn cyhoeddi cylchgronau, canllawiau, ac adroddiadau ar gyfer ffigurau'r llywodraeth ac ymarferwyr i helpu i drosi ymchwil academaidd i atebion ‘i ba ddiben felly’ ac i ddangos sut y gellir defnyddio gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol yn effeithiol mewn senarios bob dydd.

Dywedodd yr Athro Stacey Conchie, Cyfarwyddwr CREST, “CREST Security Review yw ein ffordd o hysbysu ymarferwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid am wyddor gymdeithasol ac ymddygiadol nodedig nid yn unig yn CREST, ond ledled y byd.”

Gallwch ddarllen y rhifyn hwn o CREST Security Review ar eu gwefan: https://crestresearch.ac.uk/magazine/misinformation/