Ewch i’r prif gynnwys

Sut gallwn ddefnyddio gwerthoedd i gynyddu gostyngeiddrwydd ymhlith pleidwyr gwleidyddol?

19 Hydref 2023

Mae prosiect ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd yn archwilio rôl y gwerthoedd personol sydd ynghlwm wrth ostyngeiddrwydd deallusol yn sgil dadlau gwleidyddol ar-lein.

Mae Defnyddio Gwerthoedd i Gynyddu Gostyngeiddrwydd Deallusol ymhlith Pleidwyr Gwleidyddol yn cyfuno rhaglen empirig o ymchwil sy’n cynnwys tair astudiaeth sy’n ystyried effeithiau meddwl am werthoedd personol ar ostyngeiddrwydd deallusol dilynol yn sgil dadlau gwleidyddol ar-lein, ochr yn ochr â digwyddiad rhyngddisgyblaethol gydag arbenigwyr rhyngwladol ar rinwedd, gwerthoedd ac agweddau ym maes athroniaeth a seicoleg.

Mae'r prosiect yn dechrau drwy gynnal deialog rhwng ymchwil athronyddol ar werthoedd a rhinwedd a disgrifiadau cymdeithasol a seicolegol o werth ac agwedd i egluro'r berthynas rhwng gwerthoedd a gostyngeiddrwydd deallusol a rhinwedd, gan roi ystyriaeth benodol i gyd-destunau gwleidyddol.

Gan dynnu ar ymchwil ryngddisgyblaethol flaenorol, bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd ymyraethau cadarnhau gwerthoedd mewn tri arbrawf ar raddfa fawr a gofrestrwyd ymlaen llaw, gan ystyried cryfder yr effaith, yr effeithiau dros amser a'r mecanweithiau seicolegol sy'n sail i newid.

Athro Athroniaeth Alessandra Tanesini ym Mhrifysgol Caerdydd a'r Athro Seicoleg Greg Maio ym Mhrifysgol Caerfaddon sy'n arwain yr astudiaeth.

Dyma a ddywedodd yr Athro Tanesini :

“Mae gwleidyddiaeth sydd wedi’i pholareiddio’n rhwystro gweithredu ar y cyd i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol aruthrol a chymhleth, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, rhyfeloedd, a phandemigau. Mae'r gwrthwynebiad cynyddol rhwng pleidwyr gwleidyddol wedi arwain at farn drahaus a chynhennus ynghylch gallu deallusol yr ochr arall a pharodrwydd cyfyngedig i ddeall ei safbwyntiau. Mae angen dulliau arloesol a lunnir i hyrwyddo a chynnal gostyngeiddrwydd deallusol i feithrin trafodaeth wleidyddol barchus ac adeiladol, a hynny er mwyn dod o hyd i atebion sy’n fwy derbyniol.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Maio:

“Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â her hynod ddiddorol: sut gallwn ni amlygu gostyngeiddrwydd deallusol gwirioneddol wrth fod yn driw i’n hargyhoeddiadau dyfnaf?  Mae'r her hon yn codi oherwydd bod gostyngeiddrwydd yn golygu bod yn agored i safbwyntiau gwahanol a bod yn ymwybodol o'n cyfyngiadau deallusol ein hunain. Mae'r agwedd agored hon yn golygu bod yn barod i ystyried o ddifrif y posibilrwydd ein bod yn anghywir.  Fodd bynnag, rydym hefyd eisiau parhau’n driw i'r gwerthoedd rydym yn eu coleddu fwyaf a hwyrach ein bod yn ofni bod unrhyw gyfaddefiad o gamwedd yn golygu gwrthod y gwerthoedd hynny.  Yn ein prosiect, rydym yn ceisio canfod a allai'r gwrthwyneb fod yn wir hefyd.  Hynny yw, hwyrach y bydd ymwybyddiaeth o’n gwerthoedd yn cynyddu gostyngeiddrwydd drwy beri inni deimlo’n ddigon sicr amdanom ein hunain i fod yn agored i safbwyntiau eraill.”

Mae’r prosiect rhyngddisgyblaethol tair blynedd sy’n werth USD 250,000 yn ymchwil ar y cyd rhwng Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a Seicoleg ym Mhrifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Essex, ac mae’n cael ei ariannu gan Sefydliad John Templeton ym Mhrifysgol Talaith Georgia.

Bath and the University of Essex, funded by the John Templeton Foundation through Georgia State University.

Rhannu’r stori hon