Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr Ysgrifennu Creadigol yn cyhoeddi stori fer

18 Hydref 2023

Sharif Gemie

Cafodd Sharif ei annog gan ei diwtor yn y Tîm Dysgu Gydol Oes i gyflwyno ei stori i’w chyhoeddi

Pan ymddeolodd Sharif Gemie o’i swydd yn Athro Hanes yn 2017, roedd e’n teimlo bod angen her newydd arno. Roedd Sharif, sy’n 65 oed ac yn byw yn y Fenni, wedi cwblhau sawl cwrs Ysgrifennu Creadigol, ond roedd eisiau mireinio ei sgiliau a gallu ysgrifennu mewn genre gwahanol. Ymrestrodd ar gwrs Ysgrifennu Ffuglen Wyddonol a Ffantasi dan arweiniad Dr Gemma Scammell.

Cafodd Gemma ei chyfareddu gan y darn olaf o waith a gyflwynodd Sharif i’w asesu, sef Leading the Way. Anogodd Sharif i ddatblygu’r stori a cheisio ei chyhoeddi. Naratif gwych ac iasol yw Leading the Way sy’n seiliedig ar argyfwng y newid hinsawdd yng Nghymru nid nepell yn y dyfodol, lle mae cynhesu byd-eang yn dechrau gwneud Cymru’n rhywle amhosibl i fyw ynddo ac yn gorfodi pobl i fudo i’r Ynys Las er mwyn goroesi.  Cafodd y stori ei chyhoeddi’n ddiweddar gan y cyfnodolyn o’r Unol Daleithiau, Muleskinner Journal.

Dyma a ddywedodd Sharif:

“Roedd cwrs Gemma’n arbennig o ddefnyddiol. Ces i wybod am rai awduron nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanyn nhw, a ches i rai awgrymiadau defnyddiol am sut i ddisgrifio sefyllfaoedd a phobl mewn cymdeithasau ffantasi neu yn y dyfodol. Yn rhan o’r modiwl, gofynnwyd imi ysgrifennu darn o ffuglen 2,000 gair. Ces i fy nghyflwyno gan Gemma i ffuglen hinsawdd (‘cli-fi’ yn Saesneg), a phenderfynais i ysgrifennu rhywfaint o hyn gan fod argyfwng y newid hinsawdd yn destun pryder mawr imi.

Gwnaeth Gemma rai sylwadau defnyddiol am y darn a gyflwynais yn rhan o aseiniad, felly penderfynais i fwrw ymlaen a’i ehangu.  Roedd y stori wedi’i lleoli yng Nghymru yn y dyfodol – efallai yn y 2060au neu’r 2070au. Cyflwynais i’r stori i gystadleuaeth straeon byrion yng Nghymru, ond doeddwn i ddim yn llwyddiannus. Yna, clywais i am rifyn arbennig ar thema ‘lloches’ gan e-gylchgrawn Americanaidd o’r enw Muleskinner. Er mawr lawenydd imi, cafodd fy stori ei derbyn o fewn dyddiau.”

Mae Sharif wedi ymrestru ar gwrs newydd Gemma, Anturiaethau Pellach mewn Ffuglen Wyddonol a Ffantasi, sy’n dechrau ar 12 Hydref.

Mae ysgrifennu wedi cydio go iawn yn Sharif.  Bydd nofel nesaf Sharif yn cael ei chyhoeddi gan Abergavenny Small Press yn hydref 2023. Enw’r nofel yw The Displaced, ac mae’n seiliedig ar gwpl o Brydain sy’n gwirfoddoli i weithio gyda ffoaduriaid yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Darllenwch Leading the Way yma.

Gallwch chi archebu The Displaced cyn ei chyhoeddi yma.

Rhannu’r stori hon