Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 3 2023

11 Hydref 2023

Flow

Cofrestrwch ar gyfer Gweithdy Mynegiant Genynnol

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal ein gweithdy Mynegiad Genynnol blynyddol gan Thermo Fisher Scientific wyneb-yn-wyneb ym mis Tachwedd ar safle Parc Cathays Prifysgol Caerdydd.

Gallwch chi bellach gofrestru i gadw eich lle. Gweler y manylion a’r ddolen isod:


Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Tachwedd

Amser: 9.30am – 1pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3WA

COFRESTRWCH YMA!  

Yn y gweithdy hyfforddi hwn, cewch gyflwyniad i fynegiad genynnol, paratoi samplau a gweithdai ar adwaith cadwynol polymeras amser real (qPCR) a thechnoleg microarae sy’n cyflwyno’r dechnoleg hon, sut i’w defnyddio a’r broses ddadansoddi.

Bydd Thermo Fisher Scientific hefyd ar gael ar ôl y gweithdy i ateb unrhyw gwestiynau neu gael sgwrs un-i-un.

Mae’r gweithdy'n rhad ac am ddim. Mae'n agored i ymchwilwyr tu mewn a thu allan i Brifysgol Caerdydd, ac mae'n addas i ymchwilwyr â phrofiad o bob math o'r dechnoleg hon, gan gynnwys dechreuwyr. Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y gweithdy hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gweminarau Cytometrg Llif

Bydd Dr Graham Bottley o InCytometry yn cynnal y gweminarau hyfforddi ar-lein canlynol ar 7, 8 a 9 Tachwedd:
Cliciwch ar y dolenni uchod i gael rhagor o fanylion a chofrestru. Codir tâl o £25 yr un ar gyfer y gweminarau hyn, a hynny i dalu'r costau (anfoneb i ddilyn). Cofiwch fod ymgynghoriaeth un-i-un gan InCytometry i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhad ac am ddim o hyd. Cysylltwch â Graham yn uniongyrchol am gymorth cytometreg llif.

Diddordeb mewn defnyddio adnoddau arbenigol ym maes Cytometreg Llif?

Wyddoch chi fod llyfryn newydd ar gael sy’n manylu ar yr holl adnoddau a rennir ym maes cytometreg llif ar draws GW4? Offer sy’n cynnig arbenigedd technegol ategol ym mhrifysgolion GW4 (Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg) yw’r adnoddau a rennir. Gall ymchwilwyr ar draws GW4 a thu hwnt, gan gynnwys partneriaid masnachol, eu defnyddio. Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn a chael gwybod am yr hyn sydd ar gael i chi. Mwynhewch y darllen!

Diwrnod defnddwyr 10x Genomics ym Mhrifysgol Caerdydd

Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn Niwrnod Defnyddwyr 10x Genomics yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn rhan o’r diwrnod, cafwyd cyflwyniadau gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a 10x Genomics, gan roi trosolwg trylwyr i bawb o'r technolegau pwerus hyn.

Diolch i'r holl gyflwynwyr a threfnwyr.

Mae digon o gysylltiadau ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n ymwneud â'r technolegau hyn. Os hoffech chi ddefnyddio a chael gwybod rhagor am y technolegau hyn, mae croeso i chi anfon ebost atom ni.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.