Cynfyfyrwyr ysbrydoledig yn disgleirio mewn seremoni wobrwyo
6 Hydref 2023
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cynfyfyrwyr 30Ish 2023 eleni
Mae dau gynfyfyriwr o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi’u henwi’n enillwyr yn ail Wobrau Alumni 30Ish.
Roedd Bleddyn Harris (BA 2014) a James Dunn (BA 2012) ymhlith yr enillwyr mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd gan Lywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, ac a oedd yn cynnwys yr arweinydd Matt Barbet (BA 1997, PgDip 1999) yn adeilad sbarc | spark y Brifysgol ar 5 Hydref.
Gan osgoi fformat rhestrau traddodiadol '30 Dan 30', mae'r gwobrau wedi'u cynllunio i gydnabod y rhai sy'n gwneud newid, yr arloeswyr a'r rhai sy'n torri rheolau ymhlith cymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd o dan neu dros 30 oed, sy'n teimlo tua 30 oed.
Cafodd y ddau â gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg eu cydnabod yn y categori Cymru i'r Byd .
Cafodd Bleddyn Harris (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2014) ei enwi’n ddiweddar yn un o’r 100 o Wneuthurwyr Newid yng Nghymru, ac mae wedi cael ei gydnabod ar y Rhestr Pinc fel un o bobl LHDTC+ mwyaf dylanwadol Cymru ers 100. Fel Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Golygyddol LGBTQYMRU, mae Bleddyn yn gweithio tu ôl i’r llenni i hyrwyddo ac i rannu straeon pobl LHDTC+ yng Nghymru ac o Gymru i gynulleidfa fyd-eang.
Bellach yn gweithio i gwmni technoleg amlwladol, mae James Dunn (BA Llenyddiaeth Saesneg, 2012) yn gyfarwyddwr anweithredol yn Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn aelod archwilio ar gyfer Coleg y Cymoedd. Yn gyn-gynghorydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae wedi arwain ar drafodaethau bargeinion masnach gwerth £2 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig ar gyfer Llywodraeth y DU. Bu hefyd yn trefnu teithiau masnach dramor ac yn creu cyfleoedd ar gyfer allforion o Gymru.
Derbyniodd James Dunn hefyd wobr cydnabyddiaeth arbennig Cymru i'r Byd, a gyflwynwyd gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik (BSc 2001, PhD 2008, TAR 2014).
Yn dilyn pleidlais fyw, enwyd Bleddyn Harris a Mared Parry (BA 2018) yn enillwyr Gwobr Dewis y Bobl 2023.
Roedd 23 o gynfyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr ddisglair o enillwyr, gan amlygu amrywiaeth y llwybrau gyrfa a ddilynir gan raddedigion dyniaethau Caerdydd.
Llongyfarchiadau i'r holl gynfyfyrwyr ysbrydoledig a gydnabyddir yn rhestr Gwobrau Cynfyfyrwyr 30Ish eleni .