Ewch i’r prif gynnwys

Mae gwobrau (tua) 30 yn cydnabod myfyrwyr y gyfraith mewn dathliad blynyddol

10 Hydref 2023

Cynthia Lee (LLB 2015, PgDip 2017) / Laila Rashid (LLB 2009) / Eleanor Humphrey (LLB 2014)
Cynthia Lee (LLB 2015, PgDip 2017) / Laila Rashid (LLB 2009) / Eleanor Humphrey (LLB 2014)

Mae tri o gyn-fyfyrwyr cymdeithasol ymwybodol y gyfraith wedi cael eu cydnabod yn nathliad cymunedol cyn-fyfyrwyr eleni – y Gwobrau (tua) 30.

Cafodd Cynthia Lee (LLB 2015, PgDip 2017), Laila Rashid (LLB 2009) ac Eleanor Humphrey (LLB 2014) i gyd eu henwi yng Ngwobrau (tua) 30 eleni sydd wedi'u cynllunio i arddangos y llu o arloeswyr a’r rhai sy’n torri rheolau ac yn creu newid yng nghymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd dathliad eleni ar 5 Hydref 2023 ac fe’i cynhaliwyd gan Lywydd ac Is-Ganghellor newydd y brifysgol, yr Athro Wendy Larner a ymunodd â’r sefydliad ym mis Medi 2023.

Gall gradd yn y gyfraith ymddangos fel y llwybr amlwg i ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr ond mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad mewn myrdd o ffyrdd ar ôl y brifysgol, gan weithio y tu hwnt i’r sector cyfreithiol neu’n ychwanegol ato.

Gan amlygu’r amrywiaeth o lwybrau gyrfaol y mae myfyrwyr y gyfraith yn aml yn eu dilyn, mae enillwyr yr ysgol eleni yn dangos brwdfrydedd, caredigrwydd ac ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar bob un ohonom:

Cynthia Lee – yn cael ei chydnabod yn y categori Effaith Gymdeithasol

Mae Cynthia yn cydbwyso bywyd fel cyfreithiwr gweithredol, ymgeisydd PhD, cynorthwyydd ymchwil graddedig, ac aelod o Bwyllgor Hawliau Menywod (WRC) Cyngor Bar Malaysia. Fel ymgyrchydd hawliau dynol angerddol, mae wedi arwain sawl prosiect o dan y Pwyllgor i rymuso menywod a helpu’r rhai y mae anghyfiawnderau yn effeithio arnynt.

Yn ystod pandemig Covid-19, gweithiodd Cynthia a’i thîm yn ddiflino o dan fenter #KitajagaKita y Pwyllgor Hawliau Menywod i helpu menywod a theuluoedd sy’n agored i niwed ledled y wlad. Drwy waith caled ac ymrwymiad, cododd y fenter dros RM45,000.00 mewn chwe mis.

Yn 2022, arweiniodd dîm o dan ymgyrch #PeriodPower y Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o stigma’r mislif mewn cymunedau wedi’u hymyleiddio ym Malaysia.

Chwaraeodd Cynthia rôl yn y Pwyllgor yn lobïo ar gyfer gweithredu cyfreithiau aflonyddu rhywiol a gwrth-fasnachu pobl ym Malaysia. Mae hi a’i thîm wrthi’n gweithio ar droseddoli trais rhywiol mewn priodas ym Malaysia.

Laila Rashid – yn cael ei chydnabod yn y categori Effaith Gymdeithasol

Ganed Laila yn Saudi Arabia, ac fe ddysgodd pan yn ifanc i gwestiynu’r anghyfiawnderau oedd i’w gweld yn y gymdeithas o’i chwmpas.

Er gwaetha’r heriau roedd hi’n eu hwynebu, fe welodd drwy ei phrofiad fod grymuso menywod a merched yn cael effaith bwerus ar amodau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn fyd-eang. Ochr yn ochr â’i harfer cyfreithiol heriol, mae angerdd Laila am gydraddoldeb i fenywod wedi ei harwain at nifer di-ri o fentrau gwirfoddol, sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo hawliau menywod yn y Dwyrain Canol, Canolbarth Asia, ac yn fyd-eang.

Yn fwyaf nodedig, mae Laila’n gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Menywod Canada dros Fenywod yn Affganistan (CW4WAfghan), sef sefydliad dyngarol a hawliau dynol sy’n grymuso menywod a merched o Affganistan drwy addysg deg ac o ansawdd. O dan arweinyddiaeth Laila ar y Bwrdd, mae’r sefydliad yn parhau i weithredu a darparu rhaglenni hollbwysig i wireddu’r hawl i ddysgu, er gwaetha’r gwaharddiad llwyr bron ar addysg i ferched yn Affganistan.

Eleanor Humphrey – yn cael ei chydnabod yn y categori Ymgyrchydd Amgylcheddol

Sefydlodd Eleanor TOPL yn 2021 i brofi bod byd heb gwpanau untro yn gallu bodoli.

Nid oes modd ailgylchu cwpanau tafladwy yn hawdd – maen nhw’n cynnwys leinin plastig ar y tu mewn er mwyn dal dŵr, felly dim ond ffatrïoedd arbenigol all eu hailgylchu – sy’n golygu bod y rhan fwyaf yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae TOPL bellach yn gweithio gyda chadwyni coffi ledled y byd i gael gwared â chwpanau tafladwy o’u hecosystemau gyda’u cwpanau arloesol IoT Connected Coffee.

Eu nod yw trawsnewid y diwydiant coffi drwy ddarparu opsiynau amgen clyfar ac ailddefnyddiadwy – ar ôl datblygu cwpan coffi â phatent rhyngwladol (a restrwyd gan yr FT a GQ fel un o’r teclynnau coffi gorau) gyda thechnoleg i dracio defnydd a gwobrwyo ailddefnydd.

Mae gwledydd ledled y byd bellach yn trethu cwpanau tafladwy, gan greu marchnad fyd-eang fawr ar gyfer cwpanau ailddefnyddiadwy, gyda 2.25 biliwn o gwpanau coffi yn cael eu defnyddio bob dydd. Mae TOPL yn gweithio mewn dros hanner cant o wledydd ledled y byd, ac megis dechrau mae gwaith y tîm wrth i’r ‘latte levies’ barhau i gael eu cyflwyno. Mae TOPL a’u cwpanau sy’n cael eu galluogi gan dechnoleg, mewn sefyllfa dda i gymryd mantais ar y newid byd-eang hwn, o un-defnydd i ailddefnydd.

Enwyd Mared Parry a Bleddyn Harris yn enillydd 2023 Dewis y Bobl, yn dilyn pleidlais fyw.

Roedd 23 o gyn-fyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr hynod ddisglair o enillwyr, gan amlygu’r ystod o opsiynau sydd ar gael i raddedigion y dyniaethau Ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llongyfarchiadau i'r holl gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig a gafodd gydnabyddiaeth yn rhestr Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Tua 30 eleni.

Rhannu’r stori hon