Ewch i’r prif gynnwys

Tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg mewn llyfr am yr helyntion yng Ngogledd Iwerddon gan academydd ym maes cysylltiadau rhyngwladol (IR)

2 Hydref 2023

Darganfuwyd sgyrsiau cyfrinachol rhwng y Fyddin Brydeinig, yr IRA, a grwpiau parafilwrol teyrngarol gan academydd o Brifysgol Caerdydd wrth iddo ymchwilio i’w hanes newydd o’r Helyntion yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r llyfr Uncivil War: The British Army and the Troubles gan y Darllenydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol Dr Huw Bennett yn taflu goleuni newydd ar benderfyniadau Prydain, natur y trais a pham y bu i’r gwrthdaro barhau gyhyd.

Yn y llyfr, mae tystiolaeth helaeth sy’n esbonio meddylfryd a gweithredoedd y Fyddin Brydeinig ar sawl lefel, boed ym mhwyllgorau’r Cabinet neu ar strydoedd Belfast a Derry. Mae’n dangos sut y llwyddodd strategaeth filwrol i atal lefel y trais ond dim ond drwy wneud y gwrthdaro yn fwy gwasgaredig yn ddaearyddol, yn fwy sectyddol ei natur, a thrwy radicaleiddio’r sawl oedd ynghlwm wrtho hyd nes yr ymddangosai rhyfel diddiwedd yn anochel.

Yn Uncivil War mae Dr Bennett yn disgrifio sut y daeth o hyd i rhwystrau swyddogol sylweddol wrth ymchwilio i’r llyfr a’i ysgrifennu. Esbonia sut yr ymyrrodd yr Weinyddiaeth Amddiffyn i rwystro mynediad i nifer helaeth o ffynonellau; sut, ar ôl brwydr hir i ddefnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y rhyddhaodd yr Archifau Gwladol rai ffynonellau, ond wedi'u golygu'n helaeth; a sut roedd amgueddfeydd milwrol wedi cael gwared ar ddogfennau cyn iddo gyrraedd, neu'n newid eu safiad a gwrthod mynediad iddo pan oedd ymddiriedolwyr yn pryderu am bynciau dadleuol posibl.

Wrth siarad am y llyfr dyma a ddywedodd Dr Bennett, “Mae’r boen a ddioddefwyd yn ystod gwrthdaro Gogledd Iwerddon gyda ni o hyd heddiw, gan effeithio ar wleidyddiaeth yn ogystal â’r bywydau niferus a newidiwyd am byth yn sgil y trais. Ers yn rhy hir mae rhan y Fyddin Brydeinig yn y gwrthdaro wedi'i hanwybyddu gan ei bod yn cael ei hystyried yn rhywbeth sy’n rhy anodd i ymchwilio iddo neu mae’n cael ei phortreadu mewn ffordd rhy amrwd gan y sawl sy’n ei bychanu a’i chefnogi fel ei gilydd. Mae Uncivil War yn edrych yn fanwl ar yr hyn a wnaeth y fyddin, sut roedd ei gweithredoedd wedi effeithio ar bobl gyffredin, ac wedi mygu neu waethygu trais gweriniaethol a theyrngarol. Er y byddai’n well gan rai rhannau o’r Weinyddiaeth Amddiffyn i’r hanes hwn beidio â chael ei adrodd, mae’r llyfr yn gofyn cwestiynau y mae llawer o bobl ym Mhrydain ac Iwerddon eisiau’r atebion iddyn nhw.”

Mae’r llyfr Uncivil War: The British Army and the Troubles ar gael gan Wasg Prifysgol Caergrawnt o 5 Hydref 2023 ymlaen.

Rhannu’r stori hon