Ewch i’r prif gynnwys

Mae chwarae gyda doliau yn caniatáu i blant ddatblygu ac ymarfer sgiliau cymdeithasol beth bynnag yw eu proffil niwroddatblygiadol

28 Medi 2023

Dr Sarah Gerson Barbie

Mae niwrowyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi canfod y gallai chwarae gyda doliau fod yn fuddiol i blant ag arddulliau cyfathrebu cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys y rhai sy'n arddangos nodweddion niwroamrywiol a gysylltir yn aml ag awtistiaeth.

Fel rhan o astudiaeth hirdymor a gomisiynwyd gan  Matte l, bu ymchwilwyr yn monitro gweithgaredd ymennydd 57 o blant rhwng 4 a 8 oed gyda lefelau amrywiol o nodweddion awtistig.

Defnyddiodd y tîm, dan arweiniad Dr Sarah Gerson o Ganolfan Datblygiad Dynol Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Dr Catherine Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, offer sbectrosgopeg agos-isgoch swyddogaethol o'r radd flaenaf i archwilio actifadu'r ymennydd tra bod plant yn chwarae gyda doliau ac ar dabledi, ar eu pen eu hunain a gyda pherson arall.

Canfuwyd y gallai chwarae gyda doliau - ar eu pen eu hunain neu mewn grŵp - gynorthwyo prosesu cymdeithasol ymhlith plant sydd â lefelau uchel o nodweddion awtistig a hebddynt, er bod hynny drwy eu dulliau gwahanol o chwarae.

Mae'r canfyddiadau'n adeiladu ar ymchwil y blynyddoedd blaenorol sy'n awgrymu bod chwarae gyda doliau wedi actifadu rhannau o ymennydd plant sy'n ymwneud ag empathi a sgiliau prosesu cymdeithasol; a bod chwarae  gyda doliau wedi helpu plant i siarad mwy am feddyliau ac emosiynau pobl eraill .

Child playing with Barbie / Plentyn yn chwarae gyda Barbie

Dywedodd Dr Gerson: “ Mae ein hastudiaeth yn dangos y gall chwarae gyda doliau annog prosesu cymdeithasol mewn plant, beth bynnag yw eu proffil niwroddatblygiadol. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu    y gallai pob plentyn, hyd yn oed y rhai sy'n arddangos nodweddion niwroamrywiol sy'n gysylltiedig yn aml ag awtistiaeth, ddefnyddio chwarae doliau fel offeryn ar gyfer ymarfer senarios cymdeithasol a datblygu sgiliau cymdeithasol, megis empathi.”

Roedd yr astudiaeth ddiweddaraf hon yn ailadrodd yr amodau ym Mlwyddyn Un yr ymchwil, gan ddefnyddio plant â nodweddion awtistig y tro hwn.  Wrth arsylwi ar y plant, gwelodd ymchwilwyr fwy o weithgarwch ymenyddol o gwmpas rhan ôl y swlcws arleisiol uwch (pSTS) wrth chwarae gyda doliau, a hynny wrth chwarae gyda phartner cymdeithasol a chwarae â doliau ar eu pen eu hunain, ond yn llai felly wrth chwarae â thabled ar eu pen eu hunain. Mae'r rhanbarth PSTs yn ymwneud yn helaeth ac yn weithgar yn ystod prosesu cymdeithasol ac emosiynol.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod chwarae gyda doliau yn actifadu rhanbarthau o'r ymennydd sy'n gysylltiedig â phrosesu gwybodaeth gymdeithasol fel empathi, sy'n arwydd y gallai chwarae gyda doliau alluogi plant i ymarfer, defnyddio a pherfformio'r sgiliau hyn hyd yn oed wrth chwarae'n annibynnol. Roedd yr effaith hon yn yr ymennydd yn debyg rhwng plant oedd yn arddangos llai a mwy o nodweddion a gysylltir yn aml ag awtistiaeth.

Mae canlyniadau'r astudiaeth yn awgrymu y gallai chwarae gyda doliau gynorthwyo gyda phrosesu cymdeithasol, beth bynnag yw proffil niwroddatblygiadol plentyn, ond trwy wahanol lwybrau. I blant oedd yn arddangos llai o nodweddion awtistig, roedd siarad am gyflwr meddyliol pobl eraill yn gysylltiedig â gweithgaredd pSTS (h.y. iaith am feddyliau ac emosiynau pobl eraill wrth chwarae gyda doliau ar eu pen eu hunain). Ar y llaw arall, i'r rheini oedd yn arddangos mwy o nodweddion awtistig, roedd siarad gyda phobl eraill wrth chwarae gyda doliau'n gysylltiedig â gweithgaredd pSTS, hyd yn oed wrth chwarae ar eu pen eu hunain (h.y. ymgysylltu cymdeithasol cyffredinol gydag ymchwilwyr/arbrofwyr yn hytrach na math penodol o siarad am gyflyrau meddyliol).

Dr Gerson showing brain scans / Dr Gerson yn dangos sganiau'r ymennydd

Dywedodd Dr Catherine Jones: “Mae'r astudiaeth yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cydnabod a gwerthfawrogi niwroamrywiaeth. Mae hyn yn golygu cydnabod a gwerthfawrogi'r ffyrdd amrywiol y mae ymennydd plant yn gweithio ac ymdrin â datblygiad cymdeithasol mewn ffordd sy'n gynhwysol ac yn ystyriol i bob plentyn, beth bynnag eu niwroamrywiaeth. Drwy gofleidio'r holl ffyrdd y mae plant yn dewis chwarae, gallwn greu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol ar gyfer eu datblygiad.”

Yr astudiaeth aml-flwyddyn yw'r tro cyntaf i ddamcaniaethau presennol ar chwarae gyda doliau sicrhau tystiolaeth trwy ddelweddu'r ymennydd a niwrowyddoniaeth.

“Pan fydd plant yn chwarae gyda Barbie, beth bynnag eu proffil niwroddatblygiadol, rydym yn falch i wybod y gall eu hamser chwarae fod o fudd i'w datblygiad,” meddai Micheal Swaisland, Pennaeth EMEA Insight and Analytics, Mattel.

Rydym yn falch iawn i wybod, trwy niwrowyddoniaeth, y gallai chwarae gyda Barbie annog datblygu sgiliau cymdeithasol fel empathi mewn plant, gan gynnwys y rhai sy'n arddangos nodweddion niwroamrywiol sy'n gysylltiedig yn aml ag awtistiaeth. Drwy ein partneriaeth hirdymor gyda Phrifysgol Caerdydd, rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu hyd yn oed mwy o fanteision yn gysylltiedig â chwarae gyda doliau.”

Cafodd canlyniadau'r drydedd flwyddyn o ymchwil, Embracing Neurodiversity in Doll Play: Investigating Neural and Language Correlates of Doll Play in a Neurodiverse Sample, eu hadolygu gan gymheiriaid a'u cyhoeddi yn yr European Journal of Neuroscience ym mis Medi 2023.

Rhannu’r stori hon