Ewch i’r prif gynnwys

Podlediad newydd yn archwilio pŵer gwerth cyhoeddus

28 Medi 2023

The Power of Public Value

Mae’n bleser gan Ysgol Busnes Caerdydd gyhoeddi podlediad newydd, The Power of Public Value, sy’n archwilio sut i newid ein cymdeithas a’n heconomi er budd cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae'r podlediad yn datgelu pwysigrwydd mynd y tu hwnt i elw, i ddod â dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i'r sector busnes. Gwrandewch i ddarganfod sut i fod ar flaen y gad wrth wneud newidiadau cadarnhaol i fusnesau trwy ymchwil, addysgu ac ymgysylltu.

Ym mhob pennod, mae gwestai yn rhannu eu straeon pwerus am werth cyhoeddus gyda’r cyflwynydd, yr Athro Peter Wells, y Rhag Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cewch glywed ein gwestai’n dehongli, yn diffinio ac yn cynrychioli egwyddorion gwerth cyhoeddus yr ysgol, wedi'u harwain gan eu cymhellion personol, eu gwerthoedd a'u diddordebau ymchwil eu hunain.

“Mae’r penodau’n dangos sut rydyn ni wir yn rhoi pwysigrwydd ar ethos gwerth cyhoeddus fel ysgol busnes. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol cael sgyrsiau dwfn ac ystyrlon gyda'n cydweithwyr yn y gyfadran a’r gwasanaethau proffesiynol am eu mentrau ymchwil, addysgu ac ymgysylltu ysbrydoledig. Rydyn ni wedi mynd i’r afael â phwysigrwydd herio’r sefyllfa sydd ohoni ym maes busnes i adael effaith gadarnhaol ar y byd.”
Yr Athro Peter Wells Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value

Yn ymestyn dros chwe phennod, bydd pennod gyntaf y gyfres yn cael ei darlledu ddydd Mawrth 3 Hydref, gyda'r gweddill yn cael eu rhyddhau'n wythnosol bob dydd Mawrth ar ôl y dyddiad hwn.

Mae'r gyfres yn dechrau gyda Peter yn cyfweld â Dr Deborah Hann, Darllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogwyr. Maent yn trafod ei hymwneud gweithredol â’r gymuned leol yn ogystal â’i gwaith ymchwil ar y Cyflog Byw a arweiniodd at newid go iawn yn y byd.

Pennod 1: Creu newid cymdeithasol – Dr Deborah Hann

Mae gwesteion eraill yn y gyfres yn cynnwys uwch-academyddion ac academyddion ar ddechrau eu gyrfa, yn ogystal ag aelod o staff gwasanaethau proffesiynol Ysgol Busnes Caerdydd.

Yn llawn sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl, mae’r podlediad yn helpu’r gwrandäwr i feddwl yn wahanol am sut y gall busnes lunio ein cymdeithas a’n heconomi.

Penodau a gwesteion cyfres un:

  • Pennod 1: Creu newid cymdeithasol – Dr Deborah Hann
  • Pennod 2: Yr academydd actif: ail-lunio'r diwydiant ffasiwn – Dr Hakan Karaosman
  • Pennod 3: Caffael cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol – yr Athro Jane Lynch
  • Pennod 4: Gwerthoedd materol, hapusrwydd, a gor-ddefnydd – Dr Olaya Moldes Andres
  • Pennod 5: Draenogod, addasu dodrefn ac ymgysylltu â'r gymuned – Julia Leath
  • Pennod 6: Archwilio llwybr gwerth cyhoeddus yn y dyfodol – Yr Athro Calvin Jones

Tanysgrifiwch a thiwniwch i mewn

Gwyliwch ar YouTube / gwrandewch ar Spotify neu Apple Podcasts.

Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth.

Picture of Peter Wells

Yr Athro Peter Wells

Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value

Telephone
+44 29208 75717
Email
WellsPE@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon