Cyfraddau anhwylder galar yn dilyn Covid-19 'yn uwch na'r disgwyl'
19 Medi 2023
Mae nifer yr achosion o Anhwylder Galar Hirfaith ymhlith pobl a gafodd brofedigaeth yn ystod pandemig Covid-19 yn debygol o fod yn sylweddol uwch na’r cyfnod cyn y pandemig yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste.
Cyflwr iechyd meddwl a all ddatblygu o ganlyniad i farwolaeth perthynas agos, megis plentyn neu bartner yw Anhwylder Galar Hirfaith. Mae'n fwyaf tebygol o ddigwydd yn dilyn marwolaeth oedd o natur dreisgar neu sydyn
Yn yr astudiaeth hydredol gyntaf a gyhoeddwyd ynghylch profedigaeth yn ystod pandemig Covid-19, ymchwiliodd y tîm ymchwil i gyfraddau Anhwylder Galar Hirfaith ymhlith carfan o bobl a gafodd brofedigaeth. Cyflwr iechyd meddwl a all ddatblygu dros gyfnod o amser o ganlyniad i farwolaeth perthynas agos atoch, megis plentyn neu bartner yw Anhwylder Galar Hirfaith.
Yn rhan o’r astudiaeth cafwyd arolwg o 711 o bobl yn y DU a gafodd brofedigaeth yn ystod ton cyntaf ac ail don y pandemig (rhwng Mawrth 16 2020 ac Ionawr 2 2021). Yna, bu i’r ymchwilwyr gysylltu â'r sawl a gymerodd ran drachefn, a hynny 13 mis a 25 mis wedi profedigaethau’r cyfranogwyr. Bu i’r ymchwilwyr ddarganfod bod cyfraddau Anhwylder Galar Hirfaith yn sylweddol uwch nag yn ystod y cyfnodau cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon o’r cyfnod cyn y pandemig yn awgrymu bod tua 10% o bobl a gafodd brofedigaeth wedi profi Anhwylder Galar Hirfaith. Canfu'r astudiaeth i fwy na 35% o'r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg brofi Anhwylder Galar Hirfaith 13 mis wedi’r brofedigaeth, a bod 29% o bobl yn profi'r cyflwr iechyd meddwl 25 mis wedi’r brofedigaeth.
Dyma a ddywedodd Dr Emily Harrop, Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Marie Curie Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Roedd pandemig Covid-19 yn ddigwyddiad torfol dinistriol a pharhaus; bu i bobl a gafodd brofedigaethau yn ystod y cyfnod hwn brofi nifer o amgylchiadau unigryw o anodd.
“Roedden ni eisiau deall rhagor am yr effaith y mae'r profiadau hyn wedi'u cael ar bobl, gan gynnwys sut y gallai ymdopi â phrofedigaeth yn ystod y pandemig ac addasu yn dilyn hyn fod yn wahanol i gyfnodau nad oeddent yn rhan o’r pandemig.
Dyma a ddywedodd Dr Lucy Selman, Athro Cyswllt yn y Grŵp Ymchwil Gofal Lliniarol a Diwedd Oes a'r Ganolfan Academaidd er Gofal Sylfaenol yn Mhrifysgol Bryste: “Canfuom fod nifer o ffactorau sydd â chysylltiad cryf â thebygolrwydd cynyddol o brofi Anhwylder Galar Hirfaith, gan gynnwys marwolaethau annisgwyl, unigedd cymdeithasol a theimlo’n unig yn gynnar yn ystod profedigaeth, a diffyg cymorth cymdeithasol dros amser.
“Roedd cysylltiad rhwng teimlo bod cael cymorth da gan weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn dilyn y farwolaeth â lefelau is o symptomau galar hirfaith – felly mae'r cymorth mae gweithwyr proffesiynol yn ei roi adeg y farwolaeth yn gwneud gwahaniaeth pwysig o ran prosesu profedigaeth.”
Canfu'r ymchwil hefyd fod pobl â lefelau is o addysg ffurfiol yn fwy tebygol o brofi symptomau Anhwylder Galar Hirfaith, gan awgrymu deilliannau gwael ymhlith pobl o dan anfantais gymdeithasol.
“Mae ein hymchwil yn ein helpu i ddeall sut y gall digwyddiadau sy’n achosi profedigaethau torfol effeithio ar alaru ac iechyd meddwl, ond mae ganddi hefyd oblygiadau pwysig o ran polisïau, darpariaeth ac ymarfer sy’n gysylltiedig â phrofedigaeth.
“Bydd y ddealltwriaeth newydd hon yn hollbwysig wrth baratoi ar gyfer pandemigau a digwyddiadau sy’n achosi profedigaethau torfol yn y dyfodol,” ychwanegodd Dr Harrop.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau eu hymchwil, mae'r tîm newydd lansio'r Canllaw newydd ar Gymorth Galar, sy'n rhoi cymorth i bobl sydd wedi profi profedigaeth, a hynny drwy rannu gwybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael yn y DU ar adeg profedigaeth a sut i gael gafael ar y rhain. Datblygwyd y Canllaw mewn partneriaeth â Marie Curie, y National Bereavement Alliance, y Good Grief Festival, a Compassionate Cymru.
Cyhoeddwyd yr ymchwil, Prolonged grief during and beyond the pandemic: Factors associated with levels of grief in a four time-point longitudinal survey of people bereaved in the first year of the COVID-19 pandemic, yn Frontiers Public Health ac fe'i hariannwyd gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI a Marie Curie.