Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi buddsoddi £1.4M mewn cronfa ddata ymchwil fyd-eang ar lipidau

12 Medi 2023

Lipid membrane with LIPID MAPS logo / Bilen lipid gyda logo LIPID MAPS

Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) wedi buddsoddi £1.4 miliwn mewn LIPID MAPS, sef adnodd sy'n cefnogi astudiaethau mecanistig ar ystod eang o feysydd ymchwil biofeddygol - boed yn feinweoedd, systemau enghreifftiol, microbau neu epidemioleg ddynol.

Yn sgil y cyllid, bydd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â Sefydliad Babraham, Prifysgol California San Diego, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Abertawe, yn gallu datblygu offer ac adnoddau newydd sy'n canolbwyntio ar fioleg systemau lipidau.

Dyma a ddywedodd y Prif Ymchwilydd, yr Athro Valerie O'Donnell, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyllid hwn ar gyfer ein partneriaeth newydd. Mae lipidau, a elwir yn aml yn frasterau, yn hollbwysig i fywyd ond maen nhw’n rhan ganolog hefyd o ddatblygu afiechydon fel clefyd y galon a dementia."

Yn sgil y cyllid newydd, bydd y partneriaid yn gallu datblygu adnoddau data mawr newydd sy’n canolbwyntio ar fioleg systemau lipidau, gan alluogi astudiaethau mecanistig ar ystod eang o feysydd ymchwil fiofeddygol – boed yn feinweoedd, yn systemau model, yn ficrobau neu epidemioleg ddynol.

"Mae gennym lawer iawn i'w ddysgu o hyd am faint o lipidau unigryw sydd yn ein celloedd a sut mae'r rhain yn newid yn ystod clefydau ac wrth iddyn nhw ddatblygu. Er mwyn gwella ein dealltwriaeth, mae'n hollbwysig bod adnoddau mynediad agored ar y cyd gennym fel y rhai sy'n cael eu cynnal ar LIPID MAPS." ychwanegodd y cyd-ymchwilydd Ed Dennis, Prifysgol California San Diego.

Bydd y prosiect yn dwyn consortiwm newydd ynghyd o dan ymbarél LIPID MAPS a fydd yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth foleciwlaidd a biocemegol yn ogystal â chynhyrchu offer gwybodeg newydd i gefnogi ymchwilwyr lipidau ledled y byd.  Dechreuwyd LIPID MAPS yn 2003 ym Mhrifysgol California San Diego. Casglodd fwy na 40,000 o strwythurau, gan ddatblygu system dosbarthu lipidau newydd cyn symud i'r DU yn 2016. Mae LIPID MAPS yn gwasanaethu tua 65,000 o ymchwilwyr lipidau ledled y byd.

“Mae lipidomeg yn astudio strwythur a swyddogaeth y set gyflawn o lipidau mewn cell neu organeb yn ogystal â'r ffordd mae’n nhw’n rhyngweithio â chydrannau cellog eraill. Heb gronfeydd data wedi'u curadu gan arbenigwyr o safon, caiff data o safon wael ei greu, gan arwain at wastraff sylweddol o ran amser ac adnoddau," meddai Bill Griffiths o Brifysgol Abertawe, un o gyd-ymchwilwyr y grant.

"Yn sgil sefydlu'r bartneriaeth newydd hon, gallwn ni gynhyrchu offer ac adnoddau i gefnogi bioleg systemau lipidau mewn ymchwil fiofeddygol a chlinigol sylfaenol a chymhwysol," meddai'r cyd-ymchwilydd Simon Andrews, Sefydliad Babraham.

"Yn sgil y cyllid hwn, byddwn ni’n gallu datblygu ac ehangu’r maes ymchwil wyddonol newydd a chyffrous hwn a bydd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o sawl maes ymchwil fiofeddygol," ychwanegodd y cyd-ymchwilydd Ruth Andrew, Prifysgol Caeredin.

Rhannu’r stori hon