Ewch i’r prif gynnwys

Doeth am Iechyd Cymru - dod â gofal iechyd sy'n derbyn ymchwilwyr iechyd cyhoeddus ac iechyd cyhoeddus at ei gilydd

11 Medi 2023

HealthWise Wales logo

Yr haf hwn, mae platfform casglu data Doeth am Iechyd Cymru wedi’i ailadeiladu’n llwyr i wella ei swyddogaeth a chynnig profiad gwell i ddefnyddwyr.

Dyma ddechrau cyfnod newydd o recriwtio cyfranogwyr ac ymchwilwyr newydd, sydd â’r nod cyffredin o wella iechyd yng Nghymru.

Ac yntau wedi’i sefydlu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015 a’i ariannu i ddechrau gan Lywodraeth Cymru, gweledigaeth Doeth am Iechyd Cymru yw cefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a hynny drwy ddod â'r cyhoedd sy'n derbyn gofal iechyd ac ymchwilwyr iechyd cyhoeddus ynghyd.

Cofrestrfa yn fwy na dim yw Doeth am Iechyd Cymru sy’n cynnwys manylion mwy na 40,000 o gyfranogwyr sydd wedi cydsynio i gael gwybod am gyfleoedd i gymryd rhan mewn arolygon a mathau eraill o ymchwil iechyd cyhoeddus.

Bydd y rhai yn ein plith sydd erioed wedi ceisio recriwtio hyd yn oed nifer fach o gyfranogwyr cymwys ar gyfer prosiectau ymchwil yn gwybod pa mor werthfawr yw bod â chofrestr i fynd ati o gyfranogwyr sy'n barod i gymryd rhan mewn ymchwil.

I’r cyfranogwyr, gwerth bod yn rhan o Doeth am Iechyd Cymru yw cael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil o ansawdd uchel sy’n mynd i’r afael â materion iechyd pwysig ac sydd â’r potensial i gael effaith gadarnhaol ar fywydau go iawn.

“Mae Doeth am Iechyd Cymru’n adnodd ardderchog i gynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Pan fydd mwy o’r cyhoedd yn cymryd rhan mewn ymchwil, mae canlyniadau iechyd yn gwella, ac mae anghydraddoldeb gofal yn lleihau, Rwy'n falch ein bod wedi gallu cadw Doeth am Iechyd Cymru yn ein Hysgol. Rwy'n awyddus i annog ein hymchwilwyr i ddefnyddio Doeth am Iechyd Cymru i’w helpu i gyflawni eu dyheadau ym maes ymchwil a gwella ansawdd y gofal sy’n cael ei roi.”
Yr Athro Steve Riley Deon Addysg Feddygol

Mae'r gwasanaeth ar gael i bob ymchwilydd yn yr Ysgol Meddygaeth (codir tâl).

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ymuno â Doeth am Iechyd Cymru’n gyfranogwr neu ddefnyddio’r adnodd ar gyfer eich ymchwil, gallwch fynd i https://www.healthwisewales.org neu ebostio healthwisewales@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon