Ewch i’r prif gynnwys

Cynrychioli Cymru

7 Medi 2023

Mae cyn-fyfyrwyr creadigol yn ennill lleoedd i feithrin eu gyrfaoedd

Mae tri o raddedigion Prifysgol Caerdydd i gymryd rhan yn rhaglen datblygiad proffesiynol cyntaf Llenyddiaeth Cymru i ganolbwyntio ar ysgrifennu i blant a phobl ifanc.

Dim ond 14 o awduron a ddewiswyd ar gyfer rhaglen Cynrychioli Cymru 2023/2024.

Mae Taylor Edmonds (Ysgrifennu Creadigol, MA 2022), Bethany Handley (Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA 2022) a Megan Hunter (Athroniaeth a Chymraeg, BA 2022) ymhlith trydedd garfan y cynllun ar gyfer awduron heb gynrychiolaeth ddigonol.

Wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r cynllun chwenychedig 12 mis wedi’i gynllunio i feithrin talent ysgrifennu trwy sesiynau mentora un-i-un gydag awdur sefydledig o’u dewis.

Yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd o 4 i 18 oed o ffantasi i arswyd ac mewn ffurfiau mor amrywiol â barddoniaeth a’r nofel graffig, maen nhw i gyd yn rhannu’r un angerdd am ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc.

Eleni mae'r garfan hefyd yn ysgrifennu mewn sawl iaith, o'r Gymraeg a'r Saesneg i Bangla.

Yn ystod y flwyddyn, bydd y garfan yn clywed gan awduron arobryn fel Patrice Lawrence, Caryl Lewis, Lee Newbery, Alex Wharton a Sue Cheung ac arbenigwyr llenyddiaethpobl ifanc gan gynnwys yr Athro Charlotte Williams, Dr Siwan Rosser yn ogystal â chynrychiolwyr o Book Trust Cymru a chyhoeddwr Knights Of. 

Bwriad y cynllun yw cefnogi pob awdur i gyflawni ei nodau unigol, boed hynny drwy gwblhau llawysgrifau, datblygu glasbrintiau gweithdai ysgol neu fachu asiant llenyddol a gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi.

Wedi derbyn hyd at £3,300 yr un, mae’r derbynwyr yn cael mynediad at 8 gweithdy ar-lein gyda’r nod o daflu goleuni ar y proffesiwn ysgrifennu a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a’r DU ehangach ynghyd â hyfforddiant ar sut i greu brand awdur dilys, adeiladu gyrfa llawrydd a gweithio fel ymarferwyr cymuned ac ysgol.

Bydd pedwar yn datblygu gwaith creadigol yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn, gydag eraill yn cael cyfle i wella eu sgiliau Cymraeg diolch i bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd carfannau Cynrychioli Cymru blaenorol yn cymryd rhan mewn sesiynau i feithrin cysylltiadau rhwng carfannau, gan gynnig cymorth a chyfleoedd parhaus i gyfranogwyr y gorffennol a’r presennol.

Bydd detholiad o weithdai ar agor i’r cyhoedd yn ystod y flwyddyn fel ffordd o gynnig cyfarwyddyd a chyngor am ddim i ystod eang o ddarpar awduron ledled Cymru.

Rhannu’r stori hon