Ewch i’r prif gynnwys

‘Undebaeth gyhyrog’: Gall ymagwedd ‘gyhyrog’ gwleidyddion tuag at ddyfodol undeb y Deyrnas Gyfunol brofi’n wrthgynhyrchiol, yn ôl adroddiad newydd

7 Medi 2023

Mae adroddiad gan yr IPPR yn rhybuddio heddiw y gall yr agwedd “gyhyrog” tuag at ddiogelu undeb y Deyrnas Gyfunol a fabwysiadwyd gan lawer o wleidyddion yn ystod y blynyddoedd ddiwethaf brofi’n wrthgynhyrchiol, a hynny hyd yn oed ymhlith rhai o’r pleidleiswyr hynny yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd am aros yn rhan o’r DG.

Mae’r ymrwymiad rethregol tuag at yr undeb sydd wedi bod yn nodwedd cynyddol amlwg o wleidyddiaeth ddiweddar, a honno’n undeb sydd heb ei ddiwygio, yn tynnu’n groes i agweddau cyhoeddus ar draws pedair gwlad y DG – agweddau sydd mewn gwirionedd lawer iawn yn fwy amwys. Mae cefnogaeth etholwyr Lloegr i’r undeb ar ei ffurf bresennol yn llugoer, a prin hefyd yw’r pryder yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai unrhyw ran arall o’r undeb benderfynu mynd ei ffordd ei hun.

Law yn llaw â mabwysiadu agwedd “gyhyrog” tuag at yr undeb yn dilyn refferendwm annibyniaeth yr Alban a refferendwm Brexit, mae llywodraeth y DG wedi mynd ati i eithrio’r llywodraethau datganoledig o feysydd polisi allweddol yr oeddent yn disgwyl cael eu rheoli yng sgîl Brexit. Mae perygl y gall yr ymdrech i lywodraethu y modd yma – ‘treched treised’, fel petai – ennyn drwgdeimlad a thanseilio’r gefnogaeth ‘amwys’ sy’n bodoli i’r DG fel gwladwriaeth unedig.

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod amrywiaeth eang yn yr hyn y mae pobl ym mhedair gwlad y DG yn eu hystyried fel eu gwerthoedd ‘Prydeinig’ cyffredin, ynghŷd ac amwysedd trawiadol ynglŷn â phwysigrwydd cadw pob un o’r pedair gwlad yn rhan o’r undeb.

Er bod yr adroddiad yn canfod bod hunaniaeth genedlaethol Brydeinig yn cysylltu ag agweddau cyfansoddiadol, mae'n gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wladwriaeth. Er enghraifft, yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon mae pobl sy'n pwysleisio eu Prydeindod yn arddangos lefelau tebyg o Ewrosgeptiaeth i'r sawl yn Lloegr sy'n pwysleisio eu hunaniaeth Seisnig (ond nid eu hunaniaeth Brydeinig). Mewn cyferbyniad, mae’r rheini yn Lloegr sy’n pwysleisio eu Prydeindod yn fwy tebygol o fod o blaid yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan felin drafod flaengar yr IPPR, yn darparu’r dadansoddiad manwl cyntaf o arolwg ‘Cyflwr yr Undeb’ 2021 a gynhalwyd dan arweiniad Ailsa Henderson a Richard Wyn Jones o Brifysgolion Caeredin a Chaerdydd. Gofynnodd yr arolwg gwestiynau tebyg i samplau cynrychioliadol o tua 1,600 o bleidleiswyr ym mhob un o’r pedair gwlad, gan alluogi cymariaethau drwyadl o agweddau rhyngddynt.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, a chydawdur yr adroddiad:

“O ystyried fod apeliadau cyson at ‘Brydeindod’ sy’n ran mor nodweddiadol o rethreg y ddwy brif blaid fawr Prydeinig, efallai ei bod yn syndod cyn lleied o ymchwil sydd wedi’i wneud i’r gwerthoedd a’r agweddau sydd, mewn gwirionedd, yn gysylltiedig â hunaniaeth genedlaethol Brydeinig. Mae’r dadansoddiad newydd hwn yn awgrymu mai myth yw’r dybiaeth fod yna un dealltwriaeth gyffredin o Brydeindod wedi ei goleddu ar draws pedair tiriogaeth gyfansoddol y DG.

“Yn hytrach, mae yna fersiynau lluosog o hunaniaeth Brydeinig ym mhedair rhan y wladwriaeth a rheini cyd-fodoli’n ddigon anesmwyth a’u gilydd, a weithiau’n gwrth-ddweud eu gilydd yn llwyr. Mae yn awgrymu yn ei dro fod ymdrechion gan lywodraethau diweddar y DG i hyrwyddo un fersiwn ‘swyddogol’ o Brydeindod, a hynny er mwyn cryfhau yr hun a elwid yn aml ‘yr Undeb werthfawr’ (the precious Union), nid yn unig yn anhebygol o lwyddo ond mewn peryg o brofi’n wrthgynhyrchiol.”

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan yr IPPR.

Rhannu’r stori hon