Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n rhoi model yn anrheg i gymuned Stokes Croft

1 Medi 2023

Model Stokes Croft
Model Stokes Croft

Myfyrwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru’n rhoi model yn anrheg i gymuned Stokes Croft ym Mryste, a grëwyd yn rhan o stiwdio trydedd flwyddyn dan arweiniad yr Athro Aseem Inam

Mae model o ardal ddiwylliannol Stokes Croft wedi’i roi’n anrheg i Ymddiriedolaeth Tir Stokes Croft a Gweriniaeth Pobl Stokes Croft, sefydliadau arloesol sy’n hyrwyddo effaith gweithredu diwylliannol ym Mryste.

Crëwyd y model yn rhan o stiwdio ac iddi’r thema ‘Pensaernïaeth Trefolaeth: Tir yn Arf Cyfrinachol’.

Gwnaeth y myfyrwyr ymchwil ddwys i berchnogaeth, defnydd a gwerth tir yn ardal enwog Stokes Croft er mwyn deall prosesau newid trefol, yn enwedig boneddigeiddio, yn well.

Yn rhan o’r ymchwil hon, daeth syniadau creadigol i’r amlwg ar gyfer strategaethau dylunio gyda’r cyhoedd ac sydd o fudd i’r gymuned ar gyfer dyfodol yr ardal, gan gynnwys prosiectau hynod arloesol fel canolfan menywod sy’n ffoaduriaid, hyb ar gyfer tyfu, gwerthu a choginio bwyd, canolfan ar gyfer saernïo a gwneud, oriel gelf a thoiledau cyhoeddus cyfunol, canolfan ar gyfer celf ddigidol a chyhoeddus a chanolfan adsefydlu yn dilyn bod yn gaeth i gyffuriau.  Mae’r holl brosiectau hyn gwneud cyfraniad lluosog at y safle ac ar raddfa drefol. Maent hefyd yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd Stokes Croft.

Bu i’r myfyrwyr fwynhau a dysgu llawer o’r stiwdio unigryw hon.  Yn ôl Hanna Austin, “drwy drochi fy hun yn niwylliant, hanes a thirwedd drefol gyfoethog Stokes Croft, teimlais hyder a brwdfrydedd wrth ddechrau ein prosiect dylunio olaf, yn wahanol i fy nheimladau tuag at unrhyw rai o’m prosiectau blaenorol.” Cytunodd Benji Tarver, a ddywedodd fod y stiwdio’n gyfle i “gallu clywed yn bersonol beth roedd cymuned a diwylliant yn ei olygu iddynt a, rhwng eu gweledigaethau nhw a fy ngweledigaethau i, sut y gall dylunio gael ei ddefnyddio’n adnodd i lywio trafodaeth ddiwylliannol ar y dirwedd drefol.”

Bu i’r holl fyfyrwyr fwynhau a chael boddhad o’r stiwdio. Mae Naina Manglik “yn falch o’r dyluniad a greais, sy’n mynd i’r afael ag anghenion ac uchelgeisiau’r gymuned wrth ystyried adeilad rhestredig.  Mae'r prosiect terfynol hwn wedi bod yn brofiad trawsnewidiol i mi, ac rwy’n ddiolchgar am y wybodaeth a’r sgiliau a roddwyd i mi drwy gydol y broses.”

Mae prosiectau fel hyn yn dangos gwerth enfawr gwneud gwaith sy’n cael effaith ac sy’n seiliedig ar fywyd go iawn wrth astudio ar gyfer gradd, nid dim ond i ddatblygiad personol y myfyriwr ond hefyd i’w les ei hun a’r ymdeimlad o fod yn gyfrannwr at y proffesiwn pensaernïol ehangach ar ddechrau ei yrfa.

visit to liverpool

Yn rhan o astudiaeth maes, ymwelodd y myfyrwyr a’r Athro Inam â Lerpwl. Yno, bu iddynt ymweld ag ymddiriedolaethau tir cymunedol blaenllaw fel Homebaked a Granby er mwyn dadansoddi a dysgu o’u pensaernïaeth a’r meddwl beirniadol y tu ôl i’r prosiectau hyn.  Llun: Drwy garedigrwydd Paul Kelly

Roedd y stiwdio hefyd yn garreg filltir i’r Athro Aseem Inam, Cadeirydd Dylunio Trefol Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a gafodd ei ethol i Fwrdd Ymddiriedolaeth Tir Stokes Croft ym mis Ionawr 2023 o ganlyniad i’w gyfraniad, ochr yn ochr â’r myfyrwyr, at helpu i lywio dyfodol Stokes Croft.  Ers hynny, mae wedi bod wrthi’n helpu i gynllunio strategaethau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth, ei haelodau a’r gymuned ehangach.

Ym mis Medi, bydd gwaith y myfyrwyr i’w weld mewn arddangosfa yn adeilad Gweriniaeth Pobl Stokes Croft.

Rhannu’r stori hon