Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi derbyniad ar gyfer partneriaeth arolygon barn gyda ITV

31 Awst 2023

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru Wales wedi cyhoeddi derbyniad i ddechrau blwyddyn wleidyddol newydd Cymru ym mis Medi.

Bydd y digwyddiad yn arddangos Barn Cymru - partneriaeth arolygon barn rhwng ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Bydd cyflwyniad gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd ar y datblygiadau diweddaraf ym marn y cyhoedd yng Nghymru – gan gynnwys data newydd sbon.

Gyda Chymru ar drothwy Etholiad Cyffredinol y DG tyngedfennol, ac yn wynebu’r posibilrwydd o newid ar frig Llywodraeth Cymru, bydd y digwyddiad yn asesu’r dewisiadau strategol sy’n wynebu’r pleidiau, ac yn myfyrio ar ble mae'r farn gyhoeddus o flaen blwyddyn etholiad tebygol.

Cynhelir y Derbyniad ym Mhencadlys ITV Cymru Wales ym Mae Caerdydd, am 18:00 ddydd Mercher 27 Medi. Bydd lleoedd yn gyfyngedig iawn ac i fynegi diddordeb mewn mynychu, anfonwch e-bost at wgc@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon