Ewch i’r prif gynnwys

Dod i wybod mwy am gymorth cyfreithiol - llyfr newydd yn rhannu canfyddiadau cyntaf y cyfrifiad

21 Awst 2023

Mae effeithiau cyfnodau o galedi a sut maent wedi cyfrannu at argyfwng cymorth cyfreithiol yn cael eu trafod mewn llyfr newydd sy'n dwyn ynghyd barn miloedd o weithwyr cyfreithiol proffesiynol.

Mae wedi cymryd sawl blwyddyn i ysgrifennu Legal Aid and the Future of Access to Justice ar y cyd gan Ddarllenydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Dan Newman ynghyd â Catrina Denvir a Jessica Mant o Brifysgol Monash, a Jacqueline Kinghan o Brifysgol Glasgow.

Mae'r grŵp wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers 2021 pan lansiwyd y Cyfrifiad Cymorth Cyfreithiol cyntaf erioed, a chanlyniadau'r arolwg arloesol hwn o'r gweithlu yw’r sail i'w llyfr newydd.

Mae toriadau a diwygiadau wedi effeithio'n sylweddol ar y sector dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Nod y cyfrifiad oedd bwydo i mewn i adolygiadau polisi sy’n mynd rhagddo a'u defnyddio i helpu i ddiwygio'r sector a, gobeithio, gwella mynediad at gyfiawnder i'r rhai sy'n dibynnu ar gymorth cyfreithiol.

Casglodd y cyfrifiad wybodaeth gan ddarparwyr cymorth cyfreithiol, gan gymryd cipolwg ar eu cefndiroedd, manylion eu gwaith bob dydd, yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu wrth gefnogi eu cleientiaid yng nghyd-destun mesurau cyni yn ogystal ag effaith COVID-19 ar eu gwaith. Gofynnwyd hefyd i weithwyr cyfreithiol proffesiynol y gorffennol a'r presennol am eu canfyddiadau a'u safbwyntiau ynghylch cynaliadwyedd y sector cymorth cyfreithiol yn y dyfodol.

Wrth siarad am y llyfr, dywedodd Dan Newman, “Roeddem am ddarparu'r astudiaeth ymchwil fwyaf cynhwysfawr o'r sector cymorth cyfreithiol a gynhaliwyd erioed. Mae cymaint o gyfreithwyr yn gadael y sector cymorth cyfreithiol gan nad yw'r amodau gwaith sydd llawn straen a'r cydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith werth y cyflog cymharol isel. Cawsom gyllid gan y Grŵp Ymarferwyr Cymorth Cyfreithiol i wneud y llyfr yn fynediad agored gan ein bod am iddo gyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Mae’n rhaid i stori'r sector cymorth cyfreithiol gael ei chlywed. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn hanfodol i fynediad at gyfiawnder ond mae e dan fygythiad mawr.”

“Rydym yn gobeithio y bydd yn werthfawr i'r rhai sydd am ddeall pwy sy'n gweithio ym maes cymorth cyfreithiol, pam eu bod nhw’n ymgymryd â'r gwaith hanfodol hwn a'r heriau y maent yn gweithio oddi tanynt. Rydym am dynnu sylw at y sector.”

Dr Daniel Newman Lecturer in Law

Wrth gysylltu'r llyfr â'i ddysgeidiaeth, dywedodd Dan, “Mae ofnau bod oedran cyfartalog cyfreithwyr troseddol yn cynyddu sy'n golygu bod yna bryderon ynglŷn ag o ble y daw'r genhedlaeth nesaf. Rydym yn archwilio hyn yn fy modiwl Trosedd, y Gyfraith a Chymdeithas gan ei bod hi’n bwysig bod ein myfyrwyr yn dysgu ynghylch realiti gweithio ym maes cymorth cyfreithiol: maes hollbwysig o gyfreithio nad yw llawer o bobl yn cael eu denu ato.”

Mae Legal Aid and the Future of Access to Justice ar gael ar wefan Bloomsbury o fis Gorffennaf 2023.

Rhannu’r stori hon