Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno ein hymchwil ddeintyddol

21 Awst 2023

Unwaith eto eleni, mae Alison Bullock wedi bod yn cyflwyno i gynulleidfaoedd addysg ddeintyddol gwahanol.

Yn fwyaf diweddar (24 Gorffennaf 2023) cafodd ei gwahodd gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) i gyflwyno canfyddiadau i gynulleidfa allanol ar werthusiad CUREMeDE o'r cynllun DPP manylach. Digwyddiad ar-lein oedd hwn yr oedd darparwyr DPP yn bennaf wedi mynd iddo, a diolchodd y trefnydd i Alison am y 'darn rhagorol o waith a’r cyflwyniad'. Bydd y Cyngor yn defnyddio canfyddiadau'r ymchwil a sylwadau'r gynulleidfa wrth ystyried gwelliannau i’w canllawiau a'u prosesau.

Cyn hyn rhoddodd Alison gyflwyniad gwadd yng Nghynhadledd Addysgwyr Iechyd y Geg Pwyllgor Deoniaid a Chyfarwyddwyr Deintyddol Ôl-raddedig (COPDEND) a gynhaliwyd ar-lein ar 1 Mehefin 2023. Cafodd ei chyflwyniad ar fesur yr effaith addysgol ar safon gofal dderbyniad da iawn; roedd yr adborth yn cynnwys 'sgwrs ddefnyddiol iawn', 'craff iawn', 'setiau gwych o gyfeiriadau ar gyfer y sylfaen dystiolaeth', 'diolch yn fawr... rhagorol', 'cyflwyniad gwych a chynnwys ysgogol, ‘sgwrs ardderchog', 'hynod ddefnyddiol, diolch yn fawr iawn' ac 'ysgogol iawn'.

Yn gynharach yn y flwyddyn, rhoddodd gyflwyniad gwadd i NHS Education Scotland (28 Ebrill 2023) ar yr her o bennu effaith addysgol. Unwaith eto, roedd y gynulleidfa, a oedd yn cynnwys ystod o addysgwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi mwynhau’r cyflwyniad yn fawr iawn.

Bydd y tîm yn cyflwyno ein gwaith hefyd yng nghynhadledd Cymdeithas Addysg Ddeintyddol Ewrop (ADEE) eleni yn Lerpwl rhwng 23 a 25 Awst.

Rhannu’r stori hon