Ewch i’r prif gynnwys

Mae staff a myfyrwyr Optometreg yn gwella golwg ac yn rhoi gobaith i gymunedau ym Malawi

5 Medi 2023

Optometry staff and students travelling to Malawi in an airport - all standing together
Optometry staff and students travelling to Malawi

Yn ddiweddar, treuliodd tîm o 10 myfyriwr sy’n optometryddion a 5 ymchwilydd ac academydd bythefnos yn helpu cymunedau gwledig Malawi drwy sefydlu sawl clinig gofal llygaid allgymorth mewn canolfannau iechyd bach a neuaddau pentref.

Mewn cwta 5 diwrnod, cynhaliodd y tîm fwy na 1500 o brofion golwg gan ddosbarthu mwy na 600 pâr o sbectol. Yn ogystal, gwnaethon nhw helpu i wneud diagnosis o wahanol batholegau a dod o hyd i feddyginiaethau hollbwysig gan fferyllfeydd lleol ar gyfer y rheini mewn angen.

Arweiniwyd y daith gan Pete Hong (Cydymaith Addysgu) a’i goruchwylio gan Sharon Beatty (Athro), Vikki Baker (Cydymaith Addysgu) a'r Athro Barbara Ryan (Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg).

Dyma a ddywedodd Pete Hong:

“Mae myfyrwyr optometreg yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn teithiau gwirfoddoli tramor yn rhan o’u hastudiaethau. Mae hyn yn bosibl oherwydd bwrsariaethau Taith a’r codi arian y mae’r myfyrwyr yn ymgymryd ag ef eu hunain.

Mae myfyrwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiectau tramor gyda mi ers mwy nag 20 mlynedd, yn Nwyrain Ewrop i ddechrau ac yn ddiweddarach yn Affrica. Mae pob un ohonon nhw wedi bod yn anhygoel, gan ragori ar fy nisgwyliadau bob amser."

Female eye care patient in Malawi smiling and wearign glasses, with another woman
Eye care patient in Malawi

Gwella safon bywyd plant

Ymwelodd y tîm hefyd â chartref plant amddifad lle cynhalion nhw brofion llygaid i'r plant, gan ddarparu sbectol i'r rhai roedd eu hangen arnyn nhw a gwella’n fawr eu cyfleoedd addysgol a safon eu bywyd yn gyffredinol.

Dyma a ddywedodd Eve Barrett, myfyrwraig optometreg: “Y diwrnod yn y cartref plant amddifad oedd ein hoff un. Yr hyn a welon ni yn syth bin oedd gwenau cynnes llawer o blant hapus. Roedd cartref y plant yn hyfryd, ac roedd yno feysydd chwarae, llawer o leoedd agored ac adeiladau wedi'u paentio.

Cynhalion ni brofion ar olwg llawer o blant y diwrnod hwnnw gan ddarparu sbectol a chymorth golwg gwan i’r rheini roedd angen y rhain arnyn nhw.”

Hyfforddi offthalmolegwyr

Roedd y daith yn cynnwys treulio dau ddiwrnod yn Ysbyty Lions Sight First Eye yn Blantyre lle cawson nhw’r cyfle i hyfforddi rhai o'r offthalmolegwyr sy’n gofrestryddion ym Malawi.

Gwelodd y myfyrwyr yn uniongyrchol effaith gadarnhaol y broses o gyfnewid gwybodaeth a chydweithio ac roedden nhw’n gallu arsylwi nifer o lawdriniaethau a thriniaethau llygaid.

Training ophthalmologists in Malawi, four surgeons undergoing a procedure
Watching ophthalmologists in Malawi

Dyma a ddywedodd Sophie Allcock, myfyrwraig optometreg: “Roedd cael y cyfle i drosglwyddo ein gwybodaeth yn teimlo’n arbennig iawn a pheth anhygoel bellach yw gwybod bod yr offthalmolegwyr yn Blantyre yn gallu asesu golwg a phresgripsiynau cleifion yn gywir.”

Yn ogystal â’u gwaith ymroddedig, gwnaethon nhw hefyd fanteisio ar y cyfle i weld harddwch Malawi, gan gynnwys saffari deuddydd. Yma buon nhw’n ddigon ffodus i weld golygfeydd gwefreiddiol megis llewod, eliffantod, tsitaod a hipopotamysau gwyllt.

“Eisteddon ni yn yr awyr agored, gan wrando ar synau’r anifeiliaid a gwylio rhai o’r machludau haul gorau a welson ni erioed.”

Cefnogaeth wrth godi arian

Mae’r haelioni a’r cymorth wrth godi arian ar gyfer y daith hyd yma wedi:

  • Ariannu mwy na 200 o lawdriniaethau cataract
  • Darparu pâr o sbectol i fwy na 600 o oedolion a phlant
  • Rhoi Tonomedr ICare i fesur pwysau mewnllygadol i Ysbyty Lions Sight First Eye yn Blantyre
  • Darparu cymorth golwg gwan i'r ymarferwyr yn yr ysbyty er mwyn rhagnodi ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
  • Ariannu gwerth blwyddyn o Ribofflafin ar gyfer llawdriniaethau trawsgysylltu
  • Rhoi o leiaf un darn o ddillad i fwy na 150 o blant mewn cartref plant amddifad
  • Cyfrannu at MSc ar gyfer optometrydd o Blantyre
  • Ariannu triniaeth ar gyfer unigolion â chlefydau llygaid amrywiol eraill, gan newid bywydau er gwell.

Mae pawb a gymerodd ran yn estyn eu gwerthfawrogiad diffuant i'r cyfranwyr hael a roddodd gyllid, offer, amser staff neu roddion ariannol i gefnogi eu cenhadaeth.

Mae'r fideo hwn yn ddetholiad o luniau a fideos o’r daith i Malawi gan y myfyrwyr a gafodd brofiad sy’n newid bywydau go iawn.

Yn ddiweddar, cychwynnodd tîm arall o staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ar genhadaeth i Ghana. Trefnwyd pedwar diwrnod allgymorth, dau ymweliad ag ysbyty a diwrnod DPP. Ar ben hyn, roedd eu cenhadaeth wedi helpu cannoedd o bobl â nam ar eu golwg na fydden nhw fel arall wedi gallu cael gafael ar driniaeth addas.

Rhannu’r stori hon