Ymweliad gan gardiolegwyr o bob rhan o Affrica â Chaerdydd sy’n rhan o'r ymgyrch i fynd i'r afael â chlefyd y galon
15 Awst 2023
Yn un o'r ymweliadau DPP rhyngwladol cyntaf â Chaerdydd yn dilyn Covid, treuliodd cardiolegwyr o bob rhan o Affrica wythnos yn y Brifysgol ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i weld sut mae cyfleuster methiant y galon cadarn a sefydledig yn gweithio.
Nod y rhaglen, a grëwyd ar y cyd gan y Brifysgol a PASCAR (Y Gymdeithas Cardioleg Ban-Affricanaidd), yw mynd i'r afael â lefelau pryderus o glefyd y galon yn Affrica, uwchsgilio cardiolegwyr i wella deilliannau cleifion a chynyddu ymwybyddiaeth o reoli methiant y galon.
Roedd yr ymweliad â Chaerdydd yn caniatáu i'r cardiolegwyr sy'n ymweld brofi canolfan methiant y galon sy’n 'aeddfed', gan eu trochi yng ngwaith beunyddiol cyfleuster o'r fath. Ymhlith y gweithgareddau roedd mynd i baneli cleifion, arsylwi sesiynau clinigol a gweithdai ymarferol, ynghyd â dosbarthiadau meistr ar bynciau megis sgiliau cyfathrebu ym maes gofal lliniarol a delweddu.
Dyma sylw un o’r cynrychiolwyr:
Gwnaeth tîm y rhaglen hefyd sicrhau bod ein gwesteion yn mwynhau eu hamser ym mhrifddinas Cymru gan drefnu calendr cymdeithasol llawn, gan gynnwys taith o amgylch Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a mynd i nifer o fwytai’r ddinas.
Yr ymweliad preswyl sy’n para am wythnos yw elfen olaf y rhaglen DPP, a gynhelir ar-lein yn bennaf oherwydd y pandemig. Cytunodd staff Prifysgol Cymru, academyddion y Brifysgol a'r cardiolegwyr gwadd fod cwrdd wyneb yn wyneb i rannu syniadau a gwneud cysylltiadau wedi bod yn hynod fuddiol. Dywedodd un cynrychiolydd ei fod wedi sicrhau cyflenwad o reoliadwyr y galon i'w dosbarthu i gleifion, sef rhywbeth nad oedd ar gael iddo cyn hyn.
Mae tîm y rhaglen, gan gynnwys Charlotte Stephenson, Rheolwr Datblygu Busnes Uned DPP Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, wrthi’n ymchwilio i ragor o gyfleoedd ariannu er mwyn parhau i gynnal rhaglen y DPP. Cydnabyddir rhaglen DPP methiant y galon yn brosiect hollbwysig sy’n cael effaith ymarferol yn y byd go iawn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu rhaglen datblygu proffesiynol pwrpasol ar y cyd â’r Brifysgol, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar i gael sgwrs gychwynnol: