Ewch i’r prif gynnwys

Treftadaeth Cymru yn creu hanes yng Ngogledd Carolina

6 Medi 2023

Joshua Xerri
Joshua Xerri

Yn ddiweddar, cynrychiolodd myfyriwr graddedig yn y gyfraith o Gaerdydd ei gynefin yn UDA wrth gymhwyso i fod yn gyfreithiwr.

Joshua Xerri oedd y person cyntaf mewn hanes yng Ngogledd Carolina i roi'r Llw yn Gymraeg* pan gafodd ei dyngu i mewn i'r bar.

Mae Joshua, sy'n wreiddiol o Forganstown, Radur yn Gyfreithiwr Hawliau Troseddol a Sifil sy'n gweithio yn Raleigh, Gogledd Carolina ar gyfer Tarlton Law PLLC. Fodd bynnag, er ei fod filoedd o filltiroedd o'i fan geni, roedd treftadaeth Gymreig Joshua yn flaenllaw yn ei feddwl wrth dyngu ei Lw.

Dywedodd, “Mae'r iaith Gymraeg yn hynod bwysig i mi. Pan ddaeth hi'n amser i gymryd y Llw, roeddwn i'n sicr fy mod i eisiau ceisio ei wneud yn ddwyieithog. Roedd yn anrhydedd mawr i mi gael fy nhyngu i mewn i Far Gogledd Carolina a gynhaliwyd yn Llys Apeliadau Gogledd Carolina, a diolch byth roedd y beirniaid a oedd yn tyngu i mewn yn agored iawn i'r Llw dwyieithog.”

Defnyddiodd Joshua Helo Blod, gwasanaethau cyfieithu am ddim Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, a ddarparodd gopi swyddogol o'r Llw yn Gymraeg ac roedd yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth.

“Rwy'n 99.9% yn sicr mai fi yw'r unig berson sydd wedi gwneud hyn erioed, yn seiliedig ar yr ymchwil rydw i wedi'i gwneud. Siŵr o fod, ni allwn fyth fod 100% yn sicr, ond roedden nhw’n sicr yn ddigon hapus i ganiatáu i mi hawlio'r teitl hwnnw yn y Llys!”

Mae Joshua yn mwynhau ei rôl amrywiol yng Ngogledd Carolina a gall fod yn gweithio ar bopeth o droseddau tocynnau traffig i dreialon gangiau cyffuriau a llofruddiaeth. Mae'n ystyried ei waith fel cyfreithiwr amddiffyn yn hynod bwysig yn enwedig mewn gwlad sydd â chyfraddau carcharu eithriadol o uchel.

Cwblhaodd Joshua y Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL) a Chwrs Hyfforddi'r Bar (BTC) yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Wrth siarad am ei amser yn yr ysgol, dywedodd, “Fe wnaeth y sgiliau a ddysgais yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd, yn ymarferol ac yn academaidd, fy mharatoi i allu ymarfer mewn 3 awdurdodaeth ar draws 2 gyfandir. Dysgodd yr hyfforddiant eiriolaeth yn benodol rai o'r sgiliau pwysicaf rwy'n eu defnyddio yn fy ymarfer o ddydd i ddydd.”

Graddiodd Joshua o Brifysgol Caerdydd yn 2020 a gweithiodd yn Llundain fel cynorthwyydd cyfreithiol ar gyfer QC troseddol, gan weithio ar brawf llofruddiaeth yn yr Old Bailey ac yn dilyn hyn, i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Yn 2021 symudodd i UDA i gwblhau LLM ar gyfer Twrneiod Rhyngwladol, gan arbenigo mewn Cyfraith Droseddol, ym Mhrifysgol Wake Forest.

* Credwn ni! Gwnaeth Joshua ymchwil helaeth cyn ei seremoni tyngu i mewn ac mae'n sicr yn ymddangos mai ef yw'r person cyntaf i dyngu llw yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg yng Ngogledd Carolina, fodd bynnag, ni allwn fod yn 100% sicr. Llongyfarchiadau Joshua!

Rhannu’r stori hon