Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodyr Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus Newydd

15 Awst 2023

Image showing some hands holding a globe.

Mae Cymrodoriaethau Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus wedi’u dyfarnu i 11 aelod o staff Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae'r cymrodoriaethau'n annog ac yn cynorthwyo staff i ddod â'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u harbenigedd i fynd i'r afael â materion o bryder yn y gymdeithas.

Rhoddir y teitl Cymrawd Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus i staff, ac mae nhw’n cael cymorth lwfans llwyth gwaith a chyllideb gymedrol ar gyfer treuliau.

Mae'r materion neu'r themâu sydd wedi'u cynnwys yn y cymrodoriaethau newydd yn dangos ystod y mentrau o dan ymbarél gwerth cyhoeddus. Dyfarnwyd cymrodoriaethau i staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol. Maent yn cynnwys staff ar ddechrau eu gyrfa a staff academaidd uwch ym mhob un o bum adran yr Ysgol Busnes.

Dywedodd Yr Athro Peter Wells, Y Rhag Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus:

“Mae’r Cymrodoriaethau Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus yn dangos ein hymrwymiad cryf i ddefnyddio’r doniau amrywiol sydd ar gael yn Ysgol Busnes Caerdydd i helpu i fynd i’r afael â materion cymdeithasol dybryd, trwy weithio’n agos gyda chymunedau i greu atebion ar y cyd.”
Yr Athro Peter Wells Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value

Y Cymrodyr Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus newydd a theitlau eu cymrodoriaethau yw:

Yr Athro Jane Lynch a Dr Laura Purvis

Gwneud y mwyaf o systemau bwyd a arweinir gan y gymuned yng Nghymru

Dr Maryam Lofti a'r Athro Yingli Wang

Dal berdys mewn rhwyd mewn ffordd foesegol: sut y gall technoleg chwyldroi arferion bwyd môr cynaliadwy

Yr Athro Luigi De Luca

Gwella ansawdd bywyd plant anabl a'u teuluoedd

Dr Qian Li

Ymgysylltu gwerth cyhoeddus ar gymdogaethau Sero Net yn ne Cymru

Helen Whitfield

Marigold Chain

Yr Athro Debbie Foster

Cyflogaeth deg a chynaliadwy i bobl anabl yng Nghymru: astudiaeth ddichonoldeb

Dr Hussein Halabi

Rhoi’r grym yn nwylo ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy lythrennedd ariannol

Yr Athro Sarah Hurlow

Gwerth cyhoeddus trwy becyn o gyrsiau byr iawn ‘ar eich cyflymder eich hunan’ ar-lein

Dr Simon Jang

Dadansoddeg gofal cymdeithasol: gwella ansawdd gwasanaethau ac anghydraddoldebau ethnig ym maes gofal cymdeithasol

Genevieve Shanahan

Technoleg ddemocrataidd ar gyfer cwmnïau cydweithredol

Yr Athro Melanie Jones

Hyrwyddo menywod ym maes economeg yng Nghymru

Bydd cymrodoriaethau yn weithredol o fis Medi 2023 tan fis Gorffennaf 2024.

Rhannu’r stori hon