Ewch i’r prif gynnwys

Erthygl sydd wedi ennill gwobr

14 Awst 2023

Mae ymchwil arloesol tîm o archeolegwyr wedi ennill gwobr

Dyfarnwyd mai ymchwil ar y cyd dan arweiniad y bioarchaeolegydd Dr Julia Best o Brifysgol Caerdydd oedd enillydd Gwobr Ben Cullen 2023.

Dewiswyd Radiocarbon dating redefines the timing and circumstances of the chicken’s introduction to Europe and northwest Africa o blith holl gynnwys erthyglau 2022 cylchgrawn Antiquity ar draws pob agwedd ar archeoleg y byd, a’r beirniaid oedd bwrdd cynghori golygyddol a chyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr y cyfnodolyn.

Dangosodd yr ymchwil, a gynhaliwyd gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerwysg, Rhydychen, Bournemouth  a sawl sefydliad arall, sut yr oedd anifeiliaid, sy’n cael eu magu bellach ar raddfa fawr ar gyfer cig ac wyau, yn arfer cael eu hystyried yn bethau anghyffredin ac anarferol a'u cyflwyno i Ewrop yn llawer hwyrach nag a dybid yn wreiddiol.

Cyrhaeddodd yr erthygl y penawdau rhyngwladol pan gafodd ei chyhoeddi ym mis Mehefin y llynedd, gan ymddangos mewn mwy na 300 o gyfryngau newyddion a hi oedd un o’r erthyglau a gafodd ei lawrlwytho fwyaf  yn Antiquity yn ystod y flwyddyn.

Dr Best yn trafod y gwaith.

Mae Antiquity yn dyfarnu dwy wobr yn flynyddol am waith rhagorol ym maes archaeoleg: gwobr Antiquity a Gwobr Ben Cullen.

Ymhlith y prosiectau blaenorol sydd wedi ennill Gwobr Ben Cullen sydd ar waith ers 1996, y mae darganfod cylch gwreiddiol Côr y Cewri ger ei safle chwarel carreg las, a ffynnu a methu’n economaidd ym Mhrydain yr Oes Efydd.

Sefydlwyd gwobr Antiquity Ben Cullen gan Ian Gollop ym 1996 i anrhydeddu Ben (1964 – 1995), archeolegydd ifanc addawol a fu farw’n annisgwyl.

Cyhoeddwyd gwobr 2023 yng nghylchgrawn Antiquity ym mis Mehefin.

Yn sylfaenol i elfennau ymgysylltu prosiect Consuming prehistory: feeding Stonehenge, mae’r bioarchaeolegydd Dr Julia Best (BA 2008, MA 2010, PhD 2014) yn arbenigo mewn sŵarchaeoleg, ac mae ganddi ddiddordebau penodol ym maes sŵarchaeoleg adar, sŵarchaeoleg Prydain ac economi a chrefftau yn yr Oesoedd Canol.

Rhannu’r stori hon