Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi gwerthusiad o Gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus Manylach y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

17 Awst 2023

Photo by Anna Shvets

Bellach, mae adroddiad terfynol ein gwerthusiad diweddar o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Manylach y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) ar-lein.

Bwriad yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan y Cyngor, oedd gwerthuso, deall a dysgu am sut mae cynllun y DPP Manylach yn gweithio. Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn tair rhan:

  1. Asesu’r dystiolaeth yn gyflym (REA) a chyfweliadau cwmpasu gyda staff y Cyngor
  2. Dadansoddiad o set ddata DPP Manylach ddienw sy'n cynnwys gwybodaeth am 165,983 o bobl a gofrestrodd; arolwg ar-lein o bobl a gofrestrodd ar gyfer gwasanaethau deintyddol ac a ddenodd 2,817 o ymatebion; a chyfweliadau ar-lein un i un gyda 33 o bobl a gofrestrodd.
  3. Dadansoddi oedd ffocws y drydedd ran (a oedd yn gorgyffwrdd). Roedd hyn yn cynnwys dau ddigwyddiad cyfnewid dysgu a gynhaliwyd gyda staff y Cyngor.

Daw'r gwerthusiad i'r casgliad bod cydymffurfiaeth ag oriau DPP dilysadwy'r cynllun yn uchel (94.6%) ond mae angen gwell dealltwriaeth o feysydd allweddol megis pynciau a argymhellir, cynlluniau datblygu personol (CDP), ffurflenni dim oriau a chyfnodau gras.

Nodwyd ardystio hefyd yn rhwystr i gydymffurfio gan i rai gweithwyr proffesiynol ganfod nad oedd eu darparwyr DPP wedi rhoi tystysgrifau a oedd yn bodloni gofynion geiriad y Cyngor.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho nawr yn ogystal â datganiad y Cyngor i'r wasg. Mae'r gwaith wedi denu cryn ddiddordeb gan y wasg ddeintyddol, gan gynnwys y British Dental Journal, Dental Nursing, The Dentist, The Probe, Scottish Dental Magazine, DentalLab Journal.

Rhannu’r stori hon