Ewch i’r prif gynnwys

15 mlynedd o Sefydliad Confucius Caerdydd

11 Awst 2023

5 CCI tutors hands held raise to the audience
From left to right: Xueting Lei, Shiyi Deng, Modi Zhu, Mengjiao Yang and Ling He performing the dance Serenade of Peaceful Joy

Ar 5 Gorffennaf dathlodd Sefydliad Confucius Caerdydd 15 mlynedd o bartneriaeth buddiol gyda Phrifysgol Xiamen, Llywodraeth Cymru, ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru, a phartneriaid lleol. Gellir gwylio fideo byr a ddangoswyd am y tro cyntaf y noson honno sy’n dathlu’r 15 mlynedd yma.

Uchafbwynt y noson oedd cystadleuaeth ffilm a drefnwyd ar gyfer plant ysgol ledled Cymru. Cawson nhw eu gofyn i greu fideo byr ar gyfer myfyriwr cyfnewid o Tsieina sy'n ymweld er mwyn eu cyflwyno nhw i Gymru.

Two students comparing Chinese and Welsh Culture
Winners of the Years 10-13 category for Wales Schools Film Competition Lily Jones (left) and Mira Urbat (right)

Gwnaeth athrawon a disgyblion o ysgolion partner Cymru, cynrychiolwyr o’r Ganolfan Addysg a Chydweithrediad Ieithyddol yn Llundain, Sefydliadau Confucius o Loegr, yn ogystal â chydweithwyr o’r gorffennol a’r presennol, fwynhau y perfformiadau artistig a gafwyd gan diwtoriaid dawnus Sefydliad Confucius Caerdydd.

Three tutors performing on the Pipa
From left to right: We Fei Liu, Modi Zhu and Jing Liu playing the Pipa

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr y DU a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chadeirydd Bwrdd Sefydliad Confucius Caerdydd: “Mae’r bartneriaeth hirsefydlog hon gyda Phrifysgol Xiamen wedi tyfu i fod yn llwyfan bwysig sy’n gwasanaethu’r ddwy brifysgol a’r ddwy ddinas ac yn hyrwyddo cyfnewid personol rhwng Tsieina a’r DU.”

Dywedodd Dr Catherine Chabert, Darllenydd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, a Chyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius Caerdydd: “Ar draws ein tri maes blaenoriaeth, sef addysgu mewn ysgolion Cymraeg, gweithio gyda myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a chyflwyno gweithgareddau diwylliannol yn y gymuned, mae’n braf gweld ein bod ni bellach bron â dychwelyd i’r lefelau a fu cyn y pandemig. Gan edrych ymlaen, ar gyfer 2023-24, mae dwy daith ysgol i Xiamen yn yr arfaeth, ac rydym yn paratoi dathliadau i nodi 40mlynedd ers y gefeillio rhwng dinasoedd Caerdydd a Xiamen.”

Rhannu’r stori hon