Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu pobl niwroamrywiol ifanc ar-lein

9 Awst 2023

Young male child with back to photographer looking at tablet, wearing headphones

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau ysgoloriaeth o bwys gan Google i helpu pobl ifanc ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth a dyslecsia i ymdrin â’r risgiau ar y rhyngrwyd yn well.

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi curo cystadleuaeth fyd-eang i ennill ysgoloriaeth o bwys fydd yn ariannu ymchwil i leihau'r risg i bobl niwroamrywiol ifanc sy’n defnyddio'r rhyngrwyd.

Cydnabuwyd Dr Charith Perera, darllenydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn rhan o raglen hynod gystadleuol Ysgolheigion Ymchwilwyr Google yn sgil ei gynnig ymchwil ar ddiogelu pobl niwroamrywiol ifanc rhag cael eu niweidio ar-lein.

Mae Rhaglen Ysgolheigion Ymchwil Google yn cefnogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa mewn meysydd gan gynnwys preifatrwydd, rhyngweithio rhwng pobl a’r cyfrifiadur, cyfrifiadura cwantwm, diogelwch, systemau, a dysgu peirianyddol ymhlith pethau eraill.

Yn un o ddau academydd yn unig yn y DU i ennill yr ysgoloriaeth yn 2023, mae Dr Perera yn ymuno ag academyddion eraill o brifysgolion ar draws y byd gan gynnwys Prifysgol Harvard, Prifysgol Yale, Prifysgol Yonsei, Prifysgol Stanford, Prifysgol California, KU Leuven, Sefydliad Technoleg Massachusetts ( MIT), Prifysgol Hong Kong, a Choleg Prifysgol Llundain, ymhlith prifysgolion eraill.

Dyma a ddywedodd Dr Perera: “Rydyn ni wrth ein boddau bod effaith bosibl ein prosiect, sef 'Rhyngwynebau Pwrpasol i gynorthwyo Pobl Ifanc â Niwroamrywiaeth er Deall Niwed Ar-lein yn well' wedi cael ei chydnabod ar lwyfan byd-eang gan Google.

“Mae pobl niwroamrywiol ifanc yn wynebu heriau penodol o ran bod yn ddiogel ar-lein ac mae angen offer mwy arbenigol fydd yn hysbysu ac yn amddiffyn yr unigolion hyn rhag cael eu niweidio ar-lein. Mae pobl ifanc ag awtistiaeth, dyslecsia, ac ADHD, er enghraifft, yn aml yn ei chael hi’n fwy heriol deall gwybodaeth a bwriad, cofio gwybodaeth hanfodol megis cyfrineiriau, a rhoi sylw i risgiau a’u monitro tra eu bod ar y rhyngrwyd.

“Yn sgil y prosiect hwn, ein nod yw cynnal ymchwil helaeth gyda’r nod o gynnig ateb pwrpasol i bobl ifanc ag ADHD, awtistiaeth a dyslecsia a fydd yn caniatáu iddyn nhw allu cyrchu holl fanteision y rhyngrwyd gan wynebu llai o risgiau. Hwyrach y bydd y prosiect hwn yn cael effeithiau pellgyrhaeddol i bobl nad oes ganddyn nhw ddigon o gynrychiolaeth ym myd ymchwil o ran niwed ar-lein ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i weld i ble bydd ein hymchwil yn ein harwain.”

Dyma brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, a bydd yn ymgorffori’r profiad a ddatblygwyd yn yr Ysgol Seicoleg yn sgil gweithio gyda phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig.

Bydd tîm y prosiect yn gweithio ar y cyd â chymuned o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys pobl niwroamrywiol ifanc a’u rhieni, i sicrhau y bydd unrhyw ddyluniadau o ran cynnyrch yn hawdd i’w defnyddio ac yn gynhwysol.

Dyma a ddywedodd Dr Georgina Powell, Cymrawd Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn yr Ysgol Seicoleg a fydd yn gweithio gyda Dr Perera ar y prosiect: “Mae 99% o blant rhwng 12-15 oed yn cyrchu’r rhyngrwyd yn y DU. Mae gan bobl niwroamrywiol ifanc, a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, heriau unigryw wrth barhau’n ddiogel mewn byd ar-lein.

“Rydyn ni’n mynd i mewn i ysgolion i gynnal gweithdai rhyngweithiol ar ymdrin â niwed ar-lein. Yn y gweithdai hyn, byddwn ni’n dysgu rhagor am brofiadau disgyblion niwroamrywiol wrth iddyn nhw barhau’n ddiogel ar-lein a rheoli eu preifatrwydd.  Rydyn ni’n mynd i weithio gyda’n gilydd i greu ymyrraeth newydd ar y cyd i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd i ddysgu am leihau’r risg o gael eu niweidio ar-lein.”

Rhannu’r stori hon