Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod rhagoriaeth addysgu

3 Awst 2023

Dr Emma Yhnell

Mae gwobr genedlaethol wedi’i dyfarnu i academydd o Gaerdydd am ei rhagoriaeth addysgu a’i hymrwymiad i’w myfyrwyr.

Mae Dr Emma Yhnell, uwch ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan Advance HE.

Mae’r Gymrodoriaeth uchel ei pharch yn cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol ar ddeilliannau myfyrwyr a’r proffesiwn addysgu, a chaiff ei chydnabod yn rhyngwladol yn farc ansawdd.

Mae Dr Yhnell yn gyfathrebwr ac addysgwr gwyddoniaeth arobryn sy’n frwd dros wneud gwyddoniaeth yn fwy difyr, cynhwysol a hygyrch.

Mae ei haddysgu yn cwmpasu niwrowyddoniaeth, biocemeg, bioleg foleciwlaidd a mecanweithiau clefydau.

“Mae’n bleser mawr gennyf longyfarch Dr Emma Yhnell ar dderbyn y wobr hynod fawreddog hon. Mae Emma yn fodel rôl rhagorol ac yn eiriolwr dros addysgu a dysgu ac mae’n dod ag agwedd gynhwysol, arloesol a chreadigol i’w holl waith.”
Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

Dywedodd Dr Emma Yhnell, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau: “Rwyf wrth fy modd yn derbyn dyfarniad mor fawreddog am addysgu ac ysgolheictod sy’n cael ei gydnabod yn eang ym maes Addysg Uwch yn y DU, yn ogystal ag yn rhyngwladol yn farc o ansawdd.

“Hoffwn i ddiolch i’r rheiny sydd wedi fy helpu a’m mentora, ac yn enwedig y bobl hynny yn yr Academi Dysgu ac Addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd a gefnogodd fy enwebiad.

“Mae’n fraint enfawr gallu cynorthwyo ac arwain myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol wrth iddyn nhw astudio gyda ni ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Rwy’n gobeithio, trwy ennill y dyfarniad mawreddog hwn ac ymuno â’r gymuned o Gymrodyr Addysgu Cenedlaethol, y gallaf helpu i godi proffil a chydnabod rhagoriaeth addysgu ac ysgolheictod ym mhob rhan o’r Brifysgol ac yn ehangach ledled y sector Addysg Uwch.”

Rhannu’r stori hon