Ewch i’r prif gynnwys

Tystiolaeth ysgrifenedig un goroeswr yr Holocost ar gael yn y Saesneg am y tro cyntaf diolch i fyfyrwyr prifysgol

2 Awst 2023

Grŵp o fenywod yn gwenu ar y camera.
Myfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern a Phrifysgol Jagiellonian ynghyd ag ymchwilwyr y prosiect ar daith o amgylch Krakow

Mae myfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern wedi cynorthwyo gyda sicrhau bod tystiolaeth ysgrifenedig un goroeswr yr Holocost ar gael yn y Saesneg am y tro cyntaf erioed, diolch i brosiect ymchwil diweddar.

Roedd y prosiect ymgysylltu, a gynhaliwyd o fis Gorffennaf 2022 tan fis Mai 2023, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Jagiellonian yng Ngwlad Pwyl; roedd tri myfyriwr o bob sefydliad yn cydweithio i gyfieithu'r dystiolaeth. Enwau’r myfyrwyr yw Katarzyna Lesińska, Hanna Renke, Sophie DeNofrio, Bronwen Cruddas, Agnieszka Tomza ac Ella Mayer.

Roedd tri ymchwilydd hefyd yn rhan o'r prosiect, sef Dr Dorota Goluch o'r Ysgol Ieithoedd Modern, Dr Agnieszka Podpora o Brifysgol Jagiellonian a Dr Sharon Deane-Cox, ymgynghorydd o Brifysgol Strathclyde.

Cedwir y dystiolaeth ysgrifenedig hon yn yr archifau yn Amgueddfa Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pwyl ac mae'n adrodd hanes bywyd Lea Shinar, menyw Iddewig a oroesodd wersylloedd-carchar Auschwitz-Birkenau Gweithiodd yr Amgueddfa ar y cyd â'r tîm, gan rannu arbenigedd a mynediad at ddeunyddiau hanesyddol unigryw.

Yng ngham cyntaf y gwaith, cyfieithodd y myfyrwyr o Brifysgol Jagiellonian y dystiolaeth o'r Bwyleg i'r Saesneg mewn modd llythrennol. Yna cydweithiodd myfyrwyr o'r ddwy brifysgol ar roi tro arall ar y cyfieithiad i sicrhau ei fod yn llifo ac yn mynegi llais cyfoethog ac amrywiol y goroeswr.

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru drwy raglen Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd. Un o'i nodau oedd cynorthwyo addysgu ynghylch yr Holocost, drwy greu adnodd Saesneg ar gyfer addysgwyr a thrwy alluogi aelodau'r tîm i ddyfnhau eu gwybodaeth. Dywedodd Hanna Renke, myfyriwr oedd yn aelod o’r tîm, “ Roedd yn wers hanes na wnaf fyth ei hanghofio.”

Llun o gofeb ar y llawr.
Cofeb ryngwladol er cof am y bobl a ddioddefodd yng Ngwersyll Auschwitz-Birkenau. Mae’r gofeb yn sefyll yn hen safle Auschwitz II-Birkenau

Ar ôl cydweithio trwy sesiynau rhithwir, cyfarfu'r myfyrwyr a'r ymchwilwyr wyneb yn wyneb ym mis Ionawr 2023 yn ystod taith pum niwrnod i Wlad Pwyl. Ymwelodd y grŵp ag Amgueddfa Auschwitz-Birkenau, lle bu iddyn nhw roi cyflwyniad ar eu cyfieithiad i staff a thywyswyr yr amgueddfa. Yn ogystal, aeth y grŵp ar daith yn Krakow o amgylch yr ardal lle magwyd Lea Shinar.

Mae myfyrwraig yn siarad wrth roi cyflwyniad. Mae academydd yn gwylio cyflwyniad y fyfyrwraig.
Sophie DoNofrio, myfyrwraig BA ym maes Cyfieithu, yn rhoi cyflwyniad i staff Amgueddfa Auschwitz-Birkenau

Roedd Ella Mayer yn un o'r myfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd Modern a fu'n rhan o'r prosiect. Dywedodd: “Cefais fy effeithio'n fawr iawn, yn emosiynol felly, gan ein hymweliad ag Auschwitz – a'n taith dywys yn Krakow. Roedd y profiad yn help mawr o ran llywio sut roeddwn i'n cysylltu â'r ddelwedd oedd gen i o Lea Shinar.”

Nododd Bronwen Cruddas, un arall o’r myfyrwyr oedd yn rhan o’r prosiect: “Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi cael effaith hynod fuddiol ar fy nealltwriaeth broffesiynol o gyfieithu.”

Ychwanegodd Dr Goluch: “Roedd yn fraint cael cydweithio â myfyrwyr a chydweithwyr ar y prosiect hwn. Daeth ein proses gyfieithu yn weithred glòs o gofio – doeddwn i heb ddisgwyl hynny'n llawn.”

Mae ail ran y prosiect bellach ar y gweill. Mae'n golygu cyfweld â staff a thywyswyr o Amgueddfa Auschwitz-Birkenau am eu profiadau o ran cyfieithu.

Rhannu’r stori hon