Ewch i’r prif gynnwys

Aelod o staff yn derbyn gwobr genedlaethol am ymchwil i'r menopos

31 Gorffennaf 2023

Sarah Pryor receiving her AUA certificate

Mae Sarah Pryor, Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi derbyn gwobr genedlaethol am ei hymchwil MSc i'r menopos yn y gweithle.

Cyflwynodd Cymdeithas Gweinyddwyr y Prifysgolion (AUA) y wobr i Sarah am 'ymchwil yn y gwasanaethau proffesiynol sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector'. Roedd yn un o ddwy wobr yn unig i’w cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol yr AUA.

Mae Sarah yn hyrwyddwr ymroddedig ar gyfer codi ymwybyddiaeth o'r menopos yn y gweithle AU.

Mae hi'n sôn mwy wrthym am ei hymchwil a'i chymhellion ar gyfer astudio'r maes...

Trosolwg o’r ymchwil

“Roedd fy ymchwil yn edrych ar sut mae gweithio hybrid yn effeithio ar reoli symptomau'r menopos ymhlith gweithwyr Addysg Uwch (AU) a Gwasanaethau Proffesiynol (GP).

Roedd yr ymchwil yn rhan o fy MSc mewn Gweinyddu, Rheoli ac Arweinyddiaeth Addysg Uwch.

Cymhellion yr ymchwil

Dewiswyd y pwnc am ddau reswm - un personol, ac un yn sgil diddordeb yn yr ystadegau macro-economaidd ar gyfer cyflogaeth benywod/gwrywod.

Heb yn wybod i mi, dechreuais ddioddef symptomau menopos difrifol pan oeddwn tua 43 oed ond doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd. Roedd fy symptomau seicolegol yn arbennig o gryf, gyda gorbryder, iselder ysbryd, a syndrom twyllwr, a doedd blinder andwyol, ymennydd niwlog a phroblemau canolbwyntio ddim yn helpu pethau.

Roeddwn i'n teimlo fy mod i'n tanberfformio yn fy swydd, cymaint felly nes i mi ysgrifennu llythyr ymddiswyddo. Yn ffodus, ar yr union fore roeddwn i'n mynd i'w gyflwyno ac ymddiswyddo, darllenais erthygl am fenyw yn union fel fi - rhywun oedd yn arfer gwneud triathlon a rhedeg, oedd prin yn gallu codi o'r soffa ac yn gorfod cael cyntun bob dydd. Wrth ddarllen ei symptomau roedd cymaint ohonyn nhw'n swnio'n gyfarwydd. Rhoddodd yr erthygl yr hyder i fi fynd yn ôl at y meddyg teulu a chyflwyno achos dros HRT, ac mae wedi newid fy mywyd.

Felly roedd gen i brofiad personol o bron â gadael y gweithlu, a phan edrychais ar ystadegau'r farchnad lafur, roedd yn amlwg nad fi oedd yr unig un - er bod y bwlch cyflogaeth benywod/gwrywod wedi gostwng o 28% yn 2000 i 11% yn 2022, menywod yw'r rhan fwyaf (tua 71%) o weithwyr rhan-amser o hyd.

Mae ymchwil yn dangos bod tua 25% o fenywod sy'n mynd drwy'r menopos yn ystyried gadael eu gwaith, gyda 10% yn gwneud hynny, oherwydd difrifoldeb eu symptomau a diffyg cefnogaeth gan gyflogwyr. Mae ymchwil ym maes y menopos yn y gweithle yn dal i fod yn gymharol annatblygedig, felly roeddwn i'n gwybod y byddai hwn yn bwnc da i'w astudio.

Canfyddiadau’r ymchwil

Roedd tystiolaeth yn awgrymu bod rheolaeth wael yn y gweithle a'r amgylchedd yn cyd-fynd â symptomau menopos mwy difrifol, tra bod rheoli'r swydd ac ymreolaeth ar sail tasgau yn arwain at well profiadau o'r menopos.

Roedd amgylcheddau cefnogol yn y gweithle a rheoli llinell da yn arwain at drawsnewidiadau menopos cadarnhaol yn y gweithle, hyd yn oed mewn rolau ag ymreolaeth isel.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o gamau y gallai cyflogwyr AU eu cymryd:

  • gwau'r menopos drwy'r holl bolisïau AD
  • defnyddio sgyrsiau ADP cefnogol
  • darparu asesiadau risg yn y gweithle i sicrhau addasiadau rhesymol
  • codi ymwybyddiaeth staff
  • darparu hyfforddiant i reolwyr fel nad yw unigolion yn cael eu gorfodi i ddatgelu eu statws menopos os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny
Sarah presenting at the conference
Sarah presenting at the AUA conference

Gwaith ar ymwybyddiaeth o'r menopos

Ers cwblhau'r MSc rwyf i wedi cyflwyno tair sesiwn i staff Prifysgol Caerdydd ar y menopos yn y gweithle AU.

Rwyf i hefyd yn defnyddio fy mhrofiad a'm gwybodaeth newydd i helpu i gynnal y Caffis Menopos a chynnig cefnogaeth yn y grŵp ar-lein, 'Menopause Musings', ar Viva Engage, platfform cyfathrebu gweithwyr Prifysgol Caerdydd.

Rwyf wedi siarad am fy nghanfyddiadau gydag uwch staff a chydweithwyr Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hefyd, cyflwynais sesiwn yng nghynhadledd yr AUA ac ers hynny rwyf i wedi derbyn gwahoddiadau i siarad am fy ymchwil mewn gwahanol sefydliadau.

Nid yw Caerdydd yn berffaith fel sefydliad, ond mae ganddo adnoddau cefnogol i staff ar y fewnrwyd:

Fodd bynnag, fel gyda'r sefydliadau eraill oedd yn rhan o fy ymchwil, mae hyn yn tueddu i fod oherwydd egni ac ymrwymiad nifer fach o unigolion sy'n ei wneud yn ychwanegol i'w 'swyddi dydd i ddydd' a gellid gwneud mwy i sicrhau bod y gefnogaeth yn fwy eang a chyson.

Wrth ystyried mai'r gyfradd twf cyflogaeth gyflymaf yn y DU yw menywod oedran menopos, mae'n amlwg bod dadl economaidd a rheidrwydd moesol i gefnogi menywod sy'n gweithio wrth iddynt fynd drwy'r menopos, cynyddu recriwtio a chadw staff a gwella lles staff. Rwy'n falch i allu helpu gyda hyn, hyd yn oed os yw hynny mewn ffordd fach yn unig.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am ymchwil Sarah, cysylltwch â hi ar: pryors1@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon