Ewch i’r prif gynnwys

Fideo: Aneurin Bevan yn ei eiriau ei hun

28 Gorffennaf 2023

Cynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Phodlediad Hiraeth lansiad llyfr yn Senedd Cymru yn ystod wythnos pen-blwydd y GIG yn 75 oed.

Lansiwyd casgliad golygyddol Nye Davies o erthyglau cylchgrawn Tribune gan Aneurin Bevan, This is My Truth, gyda sylwebaeth a dadansoddiadau gan Beth Winter, AS Cwm Cynon, a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y llyfr ond ehangwyd hefyd i gynnwys sylwebaeth hynod ddiddorol a threiddgar ar ddadleuon presennol o fewn y mudiad llafur.

Mae fideo llawn ar gael isod.

Rhannu’r stori hon