Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd yn blatfform i arddangos ymchwil ysgol

27 Gorffennaf 2023

Grŵp o bobl yn sefyll y tu allan i adeilad yn gwenu ar y camera.
Ymchwilwyr ôl-raddedig a gymerodd ran yn y gynhadledd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern

Bu i waith ymchwil ôl-raddedig myfyrwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern gael ei arddangos mewn cynhadledd ddiweddar.

Cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwilwyr Ôl-raddedig y Bydoedd Rhyng-gysylltiedig 2023 ar 6 a 7 Mehefin 2023, a hynny yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Dros ddau ddiwrnod, daeth 45 o bobl o bob rhan o'r DU i'r gynhadledd a oedd wedi’i threfnu gan ymchwilwyr Ôl-raddedig o'r Ysgol Ieithoedd Modern. Cefnogodd yr ysgol a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (DTP) y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y gynhadledd hefyd.

Cyflwynwyd cyfanswm o 30 o bapurau ar 9 panel yn ystod y digwyddiad deuddydd o hyd; roedd y rhain yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau o feysydd y dyniaethau i'r gwyddorau cymdeithasol. Roedd ymchwil a gyflwynwyd yn y gynhadledd yn amrywio o lywodraethu'r cefnforoedd a chysylltiadau rhyngwladol i astudiaethau achos ym maes ymarfer isdeitlo creadigol.

Cynhaliwyd meddygfa ymchwil a nifer o gaffis dulliau drwy gydol y gynhadledd a chyflwynwyd prif anerchiad gan Dr Matthew Wall o Brifysgol Abertawe.

Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd yn sgwrsio.
Myfyrwyr yn sgwrsio yn y gynhadledd

Mae llawer o’r myfyrwyr oedd yn gynhadledd wedi dweud bod y digwyddiad yn llwyddiant. Ysgrifennodd un myfyriwr: "Roedd yn brofiad da ac yn gyfle i gwrdd â chyfranogwyr o wahanol feysydd a chanddynt hefyd wahanol ddiddordebau." Nododd myfyriwr arall: "Roedd yn brofiad gwych: Dydw i ddim yn credu y gallwn fod wedi canfod ffordd well i’r byd ymchwil, gan fod popeth o'r radd flaenaf," a dywedodd trydydd myfyriwr: "Roedd yn gyfle gwych i gyfarfod â llawer o fyfyrwyr PhD gwahanol ac i drafod eu hymchwil."

Rhannu’r stori hon