Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 2 2023

20 Gorffennaf 2023

GCLP

Diweddariad Ynghylch Rheoli Safon

Yn dilyn archwiliad llwyddiannus allanol ym mis Mehefin, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi cael ein hail-achredu tan fis Gorffennaf 2025 ar gyfer Ymarfer Clinigol Da yn y Labordy (GCLP). Mae'r achrediad hwn yn ategu ein hardystiad ISO 9001:2015.

System ryngwladol sy’n rheoli safon yw GCLP yn achos labordai sy'n dadansoddi samplau o dreialon clinigol yn unol â rheoliadau rhyngwladol ym maes Ymarfer Clinigol Da (GCP), gan sicrhau safon a dibynadwyedd data treialon clinigol sy’n cael ei greu yn y labordy. Edrychwch ar hafan Safon GCLP yma i ddysgu popeth am yr achrediad pwysig hwn.

Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cyngor ynghylch rheoli safon.

Diwrnod Defnyddiwr 10x Genomics ym Mhrifysgol Caerdydd: 'Dayrys Bioleg: Deall Bioleg yn ei Chyfanrwydd drwy gynnal Dadansoddiad Celloedd Sengl a Gofodol'

Rydyn ni’n eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y diwrnod defnyddwyr hwn drwy law 10x Genomics ddydd Iau 14eg Medi. Bydd y diwrnod i’r defnyddiwr hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb rhwng 10.30am a 3pm ac yn digwydd yn Adeilad Hadyn Ellis. Mae'n cynnwys ystod eang o gyflwyniadau gan 10x Genomics ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd - a chinio!

Mae angen cofrestru ar ei gyfer. Cliciwch yma i weld teitlau'r cyflwyniadau ac i gofrestru.

Yn y diwrnod i’r defnyddiwr hwn byddwch chi’n dysgu sut y gall technolegau celloedd sengl, gofodol ac in situ 10x Genomics eich helpu i wybod rhagor am y byd moleciwlaidd a’r gwahaniaethau rhwng mathau o gelloedd, ymchwilio i'r system imiwnedd addasol, canfod isdeipiau a biofarcwyr newydd, a mapio'r dirwedd epigenetig, gell wrth gell.

Hyrwyddo ein Harbenigedd o ran Rheoli Ansawdd

Roedd aelodau o dîm Y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS) Ian Brewis, Charlotte James a Jane Chappelle yn y gynhadledd 'Cyfleusterau Craidd ar gyfer y Gwyddorau Bywyd', CTLS2023, ym mis Mehefin. Roedd mwy na 200 o bobl o 20 o wledydd a rhagor, sy’n gweithio mewn cyfleusterau craidd ledled Ewrop a thu hwnt, yn bresennol. Yn rhan o'r sesiwn Meincnodi a Sicrhau Ansawdd, rhoddodd Ian Brewis gyflwyniad o'r enw 'Sut y gall System Rheoli Ansawdd effeithiol (QMS) fod o fudd i'ch Cyfleuster Craidd'. Cafwyd cryn ddiddordeb yn y cyflwyniad hwn gan gyfleusterau craidd sydd â diddordeb mewn dilyn y trywydd hwn.

Cynhadledd Staff Technegol Prifysgol Caerdydd

Cynorthwyodd aelodau tîm Y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS) gyda’r gwaith o gynllunio Cynhadledd Staff Technegol Prifysgol Caerdydd, a’i chyflwyno ddydd Iau 22 Mehefin. Teitl y gynhadledd oedd ‘Y Daith i’ch Dyfodol’ gyda ffocws ar ddatblygiad gyrfa, datblygiad personol a grymuso technegwyr. Roedd staff technegol o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, ac o Brifysgolion Bryste ac Abertawe, yn bresennol gydag ystod eang o gyflwyniadau, arddangosfa gan gyflenwyr a gweithdai ar gael i bawb.

Diweddariad Ynghylch Hyfforddiant

Byddwn yn cynnal rhagor o sesiynau hyfforddi, gan gynnwys cyrsiau cytometreg llif gan InCytometry, yn yr Hydref. Mae ein sesiynau hyfforddi fel arfer yn agored i ymchwilwyr mewnol ac allanol. Parhewch i wirio ein gwefan a'n dilyn ar Twitter i gael manylion ynghylch digwyddiadau sydd i ddod, ac anfonwch ebost atom os oes gennych unrhyw geisiadau penodol o ran hyfforddiant.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.