Ewch i’r prif gynnwys

Alison Bullock yn ennill dyfarniad cymrodoriaeth oes gyfan

26 Gorffennaf 2023

Mae’r Athro Alison Bullock, Cyfarwyddwr CUREMeDE a Chyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn y Gymrodoriaeth Oes Gyfan uchaf gan Academi'r Addysgwyr Meddygol (AoME).

Mae'r Gymrodoriaeth, sef un bwysicaf yr Academi, yn cael ei rhoi i unigolion eithriadol am eu cyfraniad neilltuol i addysg feddygol a'r academi.

Dywedodd Alison:

“Rwy’n ofnadwy o falch! Peth hynod o braf yw cael y gydnabyddiaeth allanol a phenodol hon yng nghyd-destun fy ngyrfa sy’n ymchwilio i addysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Rwy wrth fy modd yn gyfan gwbl. Diolch yn fawr ichi, AoME”.

Derbyniodd Alison ei Chymrodoriaeth yng nghynhadledd ddiweddar Dysgu Gyda'n Gilydd er Rhagoriaeth Glinigol yr Academi yng Nghaerdydd.

Rhannu’r stori hon