Ewch i’r prif gynnwys

Academydd yn siarad yn Uwchgynhadledd Ffasiwn Fyd-eang

26 Gorffennaf 2023

Dr Karaosman speaking at the summit
Dr Karaosman speaking at the Global Fashion Summit

Traddododd Dr Hakan Karaosman, Darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd, brif anerchiad yn yr Uwchgynhadledd Ffasiwn Fyd-eang, y fforwm enwog ar gyfer cynaliadwyedd o fewn ffasiwn, yn Copenhagen ar 27-28 Mehefin 2023.

Yn ystod ei anerchiad, anogodd Dr Karaosman frandiau ffasiwn i roi'r gorau i symud cyflenwyr er mwyn torri costau. Seiliwyd ei anerchiad yn y digwyddiad ar ei ymchwil i faterion cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn cymhleth.

Aeth penderfynwyr allweddol yn y diwydiant ffasiwn i’r uwchgynhadledd, gan gynnwys brandiau a manwerthwyr, arloeswyr deunyddiau a thechnoleg, a llunwyr polisi.

Dywedodd Dr Karaosman ei fod e HehHyn gweld brandiau'n gollwng cyflenwyr er mwyn lleihau costau, sy’n medru gorfodi gweithgynhyrchwyr, yn aml mewn gwledydd llai datblygedig, i dorri corneli ar gynaliadwyedd a diogelwch er mwyn cystadlu.

“Roedd fy mhrif anerchiad yn yr Uwchgynhadledd Ffasiwn Fyd-eang wedi’i chysegru i weithwyr dillad a’u plant. Gan adeiladu ar dystiolaeth wyddonol, eglurais y broses o weithredu dros yr hinsawdd a arweinir gan gyfiawnder ac esboniais rôl allweddol cynrychiolaeth gweithwyr wrth wneud penderfyniadau ar gyfer trawsnewidiadau teg. Roedd cynrychioli’r lleisiau distaw hynny ar lwyfan mor fawr yn fraint. Rwy’n gwahodd pob rhanddeiliad i ymuno â’i gilydd i weithredu camau at hinsawdd cynhwysol mewn ffyrdd cyfiawn a theg fel y gallwn gefnogi, galluogi a grymuso cymunedau cadwyn cyflenwi bregus a gweithwyr sydd wedi’u hymylu ar y cyd.”
Dr Hakan Karaosman Lecturer in Logistics & Operations Management

Dywedodd wrth yr uwchgynhadledd fod yn rhaid i frandiau gydweithio fwy â'u cadwyni cyflenwi a'u gweithgynhyrchwyr dillad i ddod o hyd i atebion cynaliadwy ar lawr gwlad.

“Mae strwythurau llywodraethu hierarchaidd a gwneud penderfyniadau unigryw yn rysáit drychinebus i bob un ohonom,” meddai. “Mae angen i ni ddeall lleisiau lluosog a’u cynrychiolaeth wrth wneud penderfyniadau.”

Dywedodd Dr Karaosman fod gan gyflenwyr yn aml atebion effeithiol ar faterion fel defnydd a gwastraff dŵr ond eu bod nhw’n aml yn cael eu hanwybyddu gan frandiau, sy’n medru cael eu gwahanu oddi wrth weithgynhyrchwyr.

Ymunodd â grŵp o siaradwyr enwog yn yr uwchgynhadledd, gan gynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, Grŵp LVMH, a Kering.

Arweiniodd ei araith yn yr uwchgynhadledd at sylw eang yn y cyfryngau, gan gynnwys erthyglau yn Forbes, Vogue Business, Yahoo News, AOL News, The Industry, a Evening Standard.

Dysgwch fwy am ymchwil Dr Hakan Karaosman i weithredu hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol o fewn cadwyni cyflenwi.

Gwyliwch y fideo byr hwn am gyflwyniad i ymchwil Dr Karosman.

Rhannu’r stori hon